Polisi Diogelwch Bwyd Cynaliadwy PDC  

Mae perthynas gymhleth rhwng darparu bwyd a diod a iechyd a’r amgylchedd ac mae gan y gwasanaethau Arlwyo ym Mhrifysgol De Cymru gyfle pwysig i greu manteision hir dymor ar gyfer eu myfyrwyr a staff.

Mae’r adran Arlwyo hefyd yn cydnabod yr angen i annog a darparu dull i newid ffordd o fyw mewn modd cadarnhaol i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd. Canlyniad hyn fydd effaith gadarnhaol ar iechyd a lles yn ogystal ag ar yr amgylchedd.  

Cliciwch yma i ddarllen Polisi Diogelwch Bwyd Cynaliadwy Prifysgol De Cymru

Partneriaethau Allanol

Drwy ein partneriaethau gyda gweithredwyr trydydd parti megis Too Good To Go a Peas Please rydym yn gallu elwa i’r eithaf ar ein cyfleoedd i leihau gwastraff a hyrwyddo ffordd o fyw sy’n iachach ac yn gynaliadwy i bawb.

Economi gylchol

Ar ddechrau blwyddyn academaidd 2021/2022, PDC oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i lansio cynllun economi gylchol cwpan diod boeth y gellir ei ailddefnyddio. Lansiwyd y fenter bwysig hon i helpu ein cwsmeriaid i osgoi gorfod defnyddio cwpan tafladwy yn ein siopau bwyd.

Roedd rhan o'r cyllid i lansio'r cynllun hwn yn gysylltiedig â chais llwyddiannus am gyllid economi gylchol gan Lywodraeth Cymru. Prif bwrpas Y Gronfa Economi Gylchol yw galluogi buddsoddiad cyfalaf mewn cadw adnoddau yn cael eu defnyddio cyhyd â phosibl, yn hytrach na chael eu llosgi neu fynd i safleoedd tirlenwi, a gyrru'r galw am ddeunyddiau eilaidd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio ar y ddolen ganlynol –

Y Gronfa Economi Gylchol | WRAP Cymru

Er mwyn hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o'r cynllun ymhellach, gwnaethom leihau'r blaendal cwpan cychwynnol, sy'n cael ei ad-dalu'n syth i'r defnyddiwr, unwaith y bydd y cwpan yn cael ei ddychwelyd i'r adran arlwyo ar ôl gorffen ei defnyddio, o £10 i £5 ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 22/23.