Mae'r Gwasanaethau Arlwyo wedi disodli pob cwpan coffi tafladwy, mewn ymgais i leihau faint o gwpanau untro rydym yn eu taflu bob blwyddyn. Ar gyfartaledd mae PDC yn defnyddio tua 159,017 o gwpanau tafladwy bob blwyddyn, mae hyn yn cyfateb i 72 tunnell o C02 sy'n cael ei ryddhau i'r atmosffer neu 718 Kg o wastraff.

Mae cynllun Cwpan PDC sy'n gweithio ar y cyd â'n cynllun dod â’ch cwpan eich hun yn caniatáu i ddefnyddwyr dalu blaendal o £5 ar gwpan y gellir ei ddychwelyd yn ddiweddarach am ad-daliad neu’n gyfnewid am gwpan newydd pan fyddwch yn archebu diod boeth. Ariannwyd cynllun cwpan PDC gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru mewn ymgais i gael gwared ar yr holl wastraff plastig diangen.

Mae’r cwpanau'n cael eu gwneud o fiopolymer a wnaed o blisgyn ffa coffi, maent yn ddiwenwyn (heb BPA) a gellir eu hailgylchu 100%.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r Gwasanaethau Arlwyo wedi cymryd camau tuag at leihau gwastraff plastig ar y campws. Maen nhw wedi symud tuag at ddewisiadau amgen di-blastig, gyda chynwysyddion cludfwyd cardbord, cyllyll a ffyrc pren, cwpanau a chynwysyddion bwyd amldro, ffynhonnau dŵr am ddim, i enwi ond ychydig.

Beth yw Cwpan PDC? 

Mae Cwpan PDC yn cyfuno rhwyddineb prynu diod boeth mewn cwpan untro gyda manteision amgylcheddol defnyddio cwpan amldro. Gall cyfranogwyr yn y rhaglen ddefnyddio ac yna dychwelyd cwpanau a ddefnyddiwyd i unrhyw fan arlwyo PDC i'w lanhau.

  1. I ymuno â'r cynllun, talwch flaendal ad-daladwy o £5 a lawrlwythwch ap HuskeeSwap [Apple neu Android]
  2. Gellir defnyddio'r cwpan PDC a ddarperir i chi mor aml ag y dymunwch mewn unrhyw fan arlwyo PDC ar draws pob campws.  
  3. Prynwch eich hoff ddiod boeth, a fydd yn cael ei weini mewn Cwpan PDC glân, di-haint.
  4. Unwaith y byddwch wedi gorffen eich diod, gallwch naill ai ddychwelyd y Cwpan PDC a ddefnyddiwyd i unrhyw fan arlwyo PDC ac archebu diod arall, a fydd yn cael ei gweini mewn cwpan amldro glân, neu ofyn am ad-daliad ar eich blaendal cychwynnol;  
  5. neu drwy ddefnyddio ap HuskeeSwap, dychwelwch eich cwpan a'i Storio i'w ddefnyddio yn y dyfodol.
  6. I optio allan, dychwelwch eich Cwpan PDC a chael eich £5 yn ôl.

Mae'r cynllun hwn yn ein helpu ni, a'r Brifysgol i leihau ein heffaith amgylcheddol, ac mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad parhaus i Gynaliadwyedd. Felly, ymunwch â'r cynllun ac arbed gwastraff ac arian!

Ap HuskeeSwap  

Bydd nodweddion yr ap yn gwneud defnyddio cynhyrchion amldro yn fwy cyfleus nag erioed o'r blaen.  

Dyma sut mae'n gweithio:

Gall cyfranogwyr yn y rhaglen gofnodi, defnyddio ac yna dychwelyd eu cwpanau amldro i unrhyw fan arlwyo PDC i'w glanhau. Drwy ddefnyddio ap HuskeeSwap [Apple neu Android] gallwch ddychwelyd eich cwpan gwag a'i STORIO yn barod ar gyfer eich ymweliad nesaf.  

Sut ydw i'n defnyddio'r ap?  

Yn gyntaf, bydd angen i chi lawrlwytho'r ap o'ch siop apiau a chofrestru os ydych am STORIO neu DYNNU eich Cwpan PDC. Gallwch barhau i ddefnyddio'r ap heb gofrestru ond bydd yn gweithredu fel map lleoliadau yn unig.

Ar y brif sgrin, bydd gennych yr opsiynau canlynol:

  • Chwilio am Gaffi - i ddod o hyd i'ch safle cyfnewid agosaf
  • Storio Cwpan - i storio cwpan gyda chaffi
  • Tynnu Cwpan - i dynnu cwpan yn ôl o ble y gwnaethoch chi storio cwpan
  • Benthyg Cwpan  – Ni fydd y swyddogaeth hon yn cael ei defnyddio yn PDC.

I Storio eich Cwpan PDC, cliciwch ar yr opsiwn STORE ar yr ap. Yna, bydd ffenestr yn ymddangos y bydd angen ei alinio â chod QR y Siop Goffi.  Yn yr un modd, wrth dynnu cwpan wedi'i storio a dychwelyd cwpan wedi'i fenthyg, bydd angen sganio'r cod QR. 

I Dynnu eich Cwpan PDC. Rhowch wybod i aelod o staff yr hoffech ddefnyddio cwpan wedi'i storio a dangoswch sgrin eich ap iddynt pan ofynnir ichi wneud hynny, fel eu bod yn gwybod i wneud eich diod mewn Cwpan PDC sydd wedi'i storio gyda nhw.