Mannau Arlwyo yn Nhrefforest
Stilts
Wedi'i leoli yng nghanol y campws, mae Stilts yn gwrt bwyd mawr gydag ardal fwyta i eistedd dros 300 o gwsmeriaid.
Rydym yn cynnig brecwastau wedi'u coginio'n boeth, bar uwd a grawnfwyd helpu eich hun ynghyd â diodydd poeth ac oer.
Mae gennym far salad blasus helpu eich hun gyda digon o saladau iach i ddewis ohonynt.
Amser cinio o 11.30am rydym yn cynnig detholiad o ginio poeth wedi'u paratoi'n ffres ar ein cownteri gan gynnwys prydau traddodiadol a phrydau â themâu a all gynnwys prydau o bob cwr o'r byd.
Mae yna ardal fawr gyda brechdanau, baguettes a tortillas i fynd â gyda chi gan gynnwys dewisiadau heb glwten a fegan.
Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o melysion, byrbrydau, cacennau a phwdinau ar gael.
Hefyd wedi'i ymgorffori yn Stilts mae ciosg sy’n falch o weini coffi Starbucks.
Cliciwch yma am fwydlen 22-26 Mehefin.
Er ein bod yn anelu at gynnig y bwydlen fel y hysbysebir, efallai y bydd newidiadau ar adegau.
Caffi Crawshay
Mae Crawshay's yn adeilad hanesyddol ac yn lle hyfryd i gyfarfod am goffi wedi'i wneud â llaw a danteithion melys, ac yn yr haf gallwch eistedd mas tu fas ar y teras.
Rydym yn cynnig bwydlen frecwast flasus wedi'i choginio i'w harchebu megis bagels wedi'u llenwi, baguettes brecwast, ochr yn ochr â croissants a chrystiau Danaidd.
I ginio, mae gennym ddetholiad o baguettes wedi'u llenwi a’u paratoi’n ffres a thato wedi’u pobi gydag amrywiaeth o lenwadau. Rydym hefyd yn cynnig eitemau i'w fynd megis brechdanau, bwydydd poeth, cawl, rholiau selsig a phasteiod.
Rydym yn darparu ar gyfer pob angen dietegol ac mae gennym amrywiaeth eang o gynhyrchion di-glwten a fegan.
Ciosg Coffi Starbucks
Ar gael ym mwyty Stilts, mae Ciosg Starbucks yn gweini diodydd poeth ac oer arbenigol ynghyd ag amrywiaeth eang o gacennau a phasteiod cartref a detholiad o frechdanau a byrbrydau.
Ciosg Coffi'r Llyfrgell
Wedi’i leoli ger y fynedfa i'r llyfrgell ar y llawr gwaelod, mae’r ciosg yn gweini diodydd poeth ac oer ynghyd â detholiad o frechdanau, cacennau a byrbrydau. Mae peiriant gwerthu bwyd a diod y tu allan i oriau ar gael ar ddau lawr yma hefyd.