Polisïau a Phecyn Bwydlenni Lletygarwch
Pecyn Bwydlenni
Edrychwch at ein Pecyn Bwydlenni Lletygarwch- rydym yn siŵr y dewch o hyd i rywbeth sydd at eich dant.
Os oes gennych unrhyw archebion y tu allan i oriau neu ar benwythnosau, e-bostiwch gyfrif Ceisiadau Lletygarwch - [email protected] ac fe wnawn ni'r gweddill.
Pecyn Bwffe Arlwyo Pontypridd a Glyn-taf
Pecyn Bwffe Arlwyo Caerdydd a Chasnewydd
Pecyn Bwffe Arlwyo Canolfan Gynadledda
Polisi Maeth
Mae ein Polisi Maeth yn canolbwyntio ar wneud bwyd iach yn hawdd i gwsmeriaid, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo bwyta’n iach.
Cyflwyniad
Mae’r portffolio arlwyo yn cynnwys 9 safle arlwyo naill ai ar ffurf Caffi/Bwyd wrth Fynd neu Gwrt Bwyd. Mae’r adran hefyd yn cefnogi cyfadrannau ac adrannau eraill drwy ddarparu lletygarwch, a busnes cynadleddau a digwyddiadau.
Mae’r adran yn rhagweithiol ac yn ymateb i newidiadau mewn ffyrdd o feddwl am faeth, deddfwriaeth y llywodraeth a gofynion cwsmeriaid. Mae’r adran wedi cyfrannu’n weithredol at weithgareddau Iechyd a Lles ers 2006.
Nodau ac Amcanion
Cynigir amrywiaeth o gynhyrchion sy’n iach yn eu hanfod, er bod y dewisiadau'n amrywio rhwng y mathau o safleoedd arlwyo. Bydd yr adran yn parhau â'r ethos a, lle y bo’n bosibl, yn mabwysiadu meini prawf dewis iach, heb effeithio ar ansawdd y cynnyrch.
Fel rhan o’r broses gaffael, bydd yr adran yn penodi’r cyflenwyr hynny a all ddangos yr un ymrwymiad i iechyd, maeth a lles. Bydd hyn yn ffurfio rhan o’r meini prawf gwerthuso yn ystod y cyfnod tendro.
Bydd safleoedd arlwyo yn marchnata dewisiadau iach yn frwd drwy gydol y flwyddyn gan ganolbwyntio ar ymgyrch codi ymwybyddiaeth flynyddol.
Bydd yr adran yn parhau i hyfforddi staff i godi ymwybyddiaeth o faeth.
Bydd yr adran yn gweithio gyda’r contractwr arlwyo yng Ngholeg Merthyr Tudful i sicrhau bod dewisiadau iach yn cael eu darparu.
Trefniadau Presennol
Mae’r adran yn gweithio’n gyson gyda chyflenwyr i wneud y bwyd a gynigir yn iachach ac fe welwch isod rai o’r cyflawniadau hyd yma.
Bwydydd Poeth
Mae’r bwydlenni’n cynnig dewis addas i’r rhan fwyaf o ddeietau, p’un ai a yw cwsmeriaid yn egnïol a bod angen carbohydradau arnynt, neu eu bod yn ceisio colli rhywfaint o bwysau. Felly bydd sglodion dal ar gael ond bydd tatws pob yn cael eu cynnig hefyd.
Mae cogyddion yr adran yn gyson yn gwneud eu ryseitiau’n iachach heb gael effaith negyddol ar y blas.
Caiff llysiau eu stemio, gyda llai o halen a dim menyn.
Bar Salad
Cyflwynwyd bar salad newydd yng nghampws Glyn-taf.
Mae mwy o amrywiaeth o salad heb ddresin, gyda dewis o ddresin â chalorïau isel ar wahân.
Caiff yr adran salad ei newid yn rheolaidd er mwyn parhau i ennyn diddordeb y cwsmer.
Brechdanau
- Mae llai o halen yn y bara.
- Mae mwy o ddewis o fara - grawn meddal gwyn, gwenith brag, bara blawd ceirch a bara tomato.
- Cynigir 75% o fara brown a dim ond 25% o fara gwyn wrth gynnig gwasanaeth arlwyo mewn digwyddiadau, a bydd yn cynnwys taeniad braster isel neu mayonnaise gyda llai o galorïau.
- Rydym wedi dewis cyflenwr manwerthu sy’n darparu amrywiaeth da o frechdanau iachach o dan 300 o galorïau.
Diodydd a Byrbrydau
- Mae mwy o amrywiaeth o ddiodydd sudd a diodydd â llai o galorïau.
- Cynigir creision wedi’u pobi a chacennau reis yn ogystal â chreision wedi’u ffrio
Mae mwy o ddewis o fyrbrydau iachach. - Mae dewisiadau iach ar gael mewn peiriannau gwerthu bwyd a diod.
Digwyddiadau Iechyd a Lles
- Mae bwffe arbennig ar gael i adrannau ei ddefnyddio yn ystod eu digwyddiadau.
- Cydweithrediad â myfyrwyr maeth i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth iechyd a oedd hefyd yn cynnwys myfyrwyr yn ogystal â staff.
Monitro a Gwerthuso
- Adolygir y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir yn rheolaidd ac mae hyn yn ffurfio’r sail ar gyfer datblygu bwydlenni. Defnyddir y dulliau canlynol i helpu’r broses hon.
- Dadansoddiad o gymysgedd gwerthiannau - mae hyn yn dynodi % o’r holl gynnyrch sydd wedi'i werthu.
- Adborth cwsmeriaid – mynd ati i fonitro barn am fwyta’n iach yn arolwg yr adran a gynhelir bob dwy flynedd.
- Paneli blasu i gytuno ar newidiadau i gynnwys bwydlenni.
- Argymhellion ar gyfer gwelliannau – yn seiliedig ar gardiau sylwadau cwsmeriaid ym mhob man arlwyo.
- Mae goruchwylwyr yn rhoi adborth gan gwsmeriaid yn eu cyfarfodydd briffio misol.
Adolygu
Bydd y polisi’n cael ei adolygu bob blwyddyn gan y Grŵp Iechyd a Lles yn y Gweithle.
Goblygiadau darparu bwyd at ddibenion lletygarwch, prosiectau neu godi arian ar eiddo'r Brifysgol.
Cyflwyniad:
Yn dilyn cyflwyniad deddfwriaeth newydd ym mis Rhagfyr 2014 sy'n cwmpasu alergenau, mae’r Adran Arlwyo yn argymell bod adrannau, myfyrwyr a staff yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddewisiadau di-fwyd ar gyfer gweithgareddau codi arian ar safleoedd y Brifysgol.
Crynodeb:
Yn yr un modd ag iechyd a diogelwch, mae yna ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â diogelwch bwyd a hylendid er mwyn sicrhau nad yw bwydydd yn peri risg i’r rhai sy'n eu bwyta.
Gall bwyd anniogel achosi salwch difrifol. Fodd bynnag, mae’r potensial i gael adwaith alergaidd (fel sioc anaffylactig) i fwyd heb ei reoli, a gynigir am ddim neu a werthir ar gampws, yn llawer mwy difrifol a gallai arwain at farwolaeth.
Rhaid dangos bod yr holl fwyd a gynhyrchir ac a gynigir am ddim neu a werthir ar y campws yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ofynnol. Cyfrifoldeb darparwr y bwyd yw hyn ac er y gellir defnyddio templedi ar gyfer llunio dogfennau, mae angen gwybodaeth arbenigol i lenwi’r manylion diwydrwydd dyladwy angenrheidiol.
Mae’r Brifysgol yn gyfrifol, ac felly’n atebol o ran cyfraith droseddol a sifil, am sicrhau ei bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd pan fydd bwyd yn cael ei gynnig am ddim neu'n cael ei werthu ar Gampws y Brifysgol. Gellir hefyd wneud cais am iawndal sifil yn erbyn unigolion sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o gynhyrchu a chynnig neu werthu unrhyw eitemau bwyd. Mae dirwyon y gellir eu gorfodi o dan y rheoliadau bwyd amrywiol yn gymharol fach o’u cymharu â’r iawndal y gellid ei roi petai hawliad sifil yn llwyddiannus.
Astudiaeth Achos:
Mae grŵp o 4 myfyriwr yn cymryd rhan mewn prosiect menter sy’n cychwyn gyda £10 i ddechrau busnes ac mae angen iddynt wneud a gwerthu cynnyrch, yn ogystal â dangos elw. Maent yn penderfynu sefydlu stondin gacennau oherwydd bod gan un o’r merched rysáit ar gyfer tafell gwstard ei mam, sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r stondin yn llwyddiant ysgubol ac mae’r myfyrwyr yn pasio’r dasg yn hawdd.
Mae nifer o fyfyrwyr yn absennol o’r dosbarth un diwrnod ac yn colli aseiniad ymarferol. Ar ôl dychwelyd maent yn rhoi gwybod am symptomau poen stumog, chwydu a dolur rhydd ac yn gwneud y cysylltiad eu bod i gyd wedi bwyta cacen o’r stondin gacennau. Maent yn rhoi gwybod i Adran Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol, sy’n dod i’r Brifysgol ac yn cynnal arolygiad dadansoddol manwl. Mae adran Iechyd yr Amgylchedd yn ystyried cyflwyno Hysbysiad Gwella i’r Brifysgol (byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Brifysgol gymryd camau unioni ar unwaith) neu Hysbysiad Gwahardd/Gorchymyn Gwahardd ar y Brifysgol (byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Brifysgol atal yr hyn sy'n achosi’r gwenwyn bwyd ar unwaith, neu i gau’r Brifysgol nes bod yr achos wedi'i reoli). Mae’r myfyrwyr sydd wedi dioddef gwenwyn bwyd yn ystyried mynd at y papurau lleol a gwneud hawliad sifil yn erbyn y Brifysgol.
Yr achos oedd Staphylococcus Aureus, bacteria a drosglwyddwyd gan un o’r myfyrwyr a oedd yn gwneud y bwyd, gan nad oedd ganddo wybodaeth dda am hylendid bwyd a gwahanol fesurau rheoli a allai fod wedi atal halogi’r bwyd. O’r herwydd, roedd y bacteria’n ffynnu ar y tafelli cwstard heb eu hoeri a adawyd allan yn yr amodau amgylchynol am gyfnodau hir. Gallai hawliad o ddegau o filoedd gael ei wneud gan unrhyw bartïon sydd wedi’u hanafu (sâl) os oeddent wedi colli dyddiadau cau academaidd allweddol, neu filiynau o bosibl (fel yr achos yn America ym mis Mehefin 2018).
Petai’r canlyniad wedi bod yn sioc anaffylactig o ganlyniad i fwyta rhywbeth yr oedd gan y defnyddiwr alergedd iddo, gallai’r parti a anafwyd fod wedi marw neu ddioddef anafiadau a fyddai’n peryglu eu bywyd (newyn ocsigen, ac ati) yn hytrach na dioddef salwch. Petai hyn wedi digwydd, gallai’r hawliad ymgyfreitha sifil gyrraedd cannoedd o filoedd o bunnoedd, neu filiynau o bunnoedd o bosibl, ond hefyd gallai’r rhai fyddai wedi bod yn atebol gael dedfryd o garchar o hyd at chwe blynedd am ddynladdiad, fel sydd wedi digwydd mewn sawl dyfarniad mewn achosion o farwolaethau lle rhodd