Hysbysebwch eich cyfleoedd
Mae’n bleser gennym ddarparu gwasanaeth ategol i gyflogwyr arddangos eu cyfleoedd ar CareersConnect i’n myfyrwyr a’n graddedigion. Boed yn swydd amser llawn, swydd ran amser, lleoliad neu brofiad gwirfoddoli gwerth chweil, rydym yma i gysylltu unigolion dawnus â rolau ystyrlon.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â [email protected]
I gychwyn arni:
- Cofrestrwch eich sefydliad ar CareersConnect.
- Cytunwch i'n Telerau ac Amodau ar gyfer hysbysebu swyddi gwag.
- Dewiswch y math o gyfle.
- Darparwch wybodaeth fanwl i ddenu a hysbysu ein myfyrwyr a'n graddedigion.
- Byddwn yn cymeradwyo ac yn rhannu eich cyfle.