Ennill Profiad

Cymorth i’r Anabl yn y Gweithle

Yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd, rydyn ni’n hyrwyddo cynhwysiant a chyfle cyfartal i bawb sy’n astudio ac yn graddio.

Student sat in USW Careers Service office talking to a Careers Consultant

Rydyn ni’n arbennig o ymroddedig i helpu unigolion wrth iddynt bontio o astudio i’r byd gwaith, boed drwy brofiad neu leoliadau gwaith, gwirfoddoli, neu swyddi i raddedigion.


Deall Anabledd

Mae “anabledd” yn cynnwys cyflyrau iechyd amrywiol – corfforol, meddyliol, anawsterau dysgu penodol, a chyflyrau niwroamrywiol. Os ydych chi’n uniaethu ag unrhyw un o'r rhain, mae gennych yr hawl i gael cymorth ychwanegol wrth chwilio am waith ac yn y gweithle. 

Eich Hawliau

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, cewch eich diogelu rhag gwahaniaethu wrth ymgeisio am swyddi ac yn y gweithle. Mae'n ofynnol i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i'ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau y gallech eu hwynebu.

Sut Gallwn ni Helpu

Rydyn ni’n deall bod profiad pawb yn unigryw, ac rydyn ni yma i'ch cefnogi drwy unrhyw heriau y gallech eu hwynebu, gan gynnwys pryderon ynghylch rhannu gwybodaeth bersonol â chyflogwyr. Rydyn ni’n cynnig cymorth ar bob cam o'ch gyrfa:

  • Cymorth gyrfa un wrth un wedi'i deilwria ar eich cyfer chi 
  • Gwybodaeth am y farchnad swyddi a rhaglenni mentora 
  • Digwyddiadau a gweithdai cynhwysol 
  • Cyngor ar gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac addasiadau rhesymol yn y gweithle 
  • Cysylltiadau â chyflogwyr drwy swyddi, interniaethau, lleoliadau, profiad gwaith, a gwirfoddoli 

Beth bynnag yw eich sefyllfa, rydyn ni yma i’ch cefnogi wrth i chi fentro i'r gweithle. E-bostiwch ni ar [email protected], hyd yn oed os nad ydych yn uniaethu fel person ag anabledd, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael cymorth.

Rhannu Eich Anabledd

Dewis personol yw penderfynu a ydych am  ddatgelu eich anabledd wrth gyflogwr. Efallai y byddwch am ei grybwyll os nad yw'ch perfformiad academaidd yn adlewyrchu eich gwir alluoedd. Gall ein Hyfforddwyr Cyflogadwyedd eich helpu gyda’r penderfyniad hwn ac amlygu eich cryfderau. 

Addasiadau Rhesymol

Rhaid i gyflogwyr sicrhau y gallwch ymgeisio am swyddi ar sail gyfartal. Gallai addasiadau rhesymol gynnwys fformatau gwahanol ar gyfer deunyddiau’n ymwneud â’r cais, amser ychwanegol ar gyfer asesiadau, neu offer arbenigol. Yn y gweithle, gallai addasiadau gynnwys newidiadau i'ch amgylchedd neu brosesau gwaith.

Dod o hyd i Gyflogwyr Cynhwysol 

Mae llawer o gyflogwyr yn mynd ati’n bwrpasol i gefnogi ymgeiswyr anabl a chymryd rhan mewn mentrau fel y Cynllun Hyderus o ran Anabledd. Chwiliwch am arwyddion sy'n dangos eu hymrwymiad i gynhwysiant, fel y symbol hyder anabledd neu bolisi cyfle cyfartal.

Cefnogi eich Iechyd Meddwl yn y Gwaith

Mae rheoli eich iechyd meddwl a'ch lles yn hanfodol. Ewch i'n tudalen lles pwrpasol i gael awgrymiadau ac adnoddau defnyddiol i gefnogi eich iechyd meddwl, ynghyd â gwybodaeth am y cymorth ychwanegol sydd ar gael pan fo angen. 

Lles Gyrfa

Mae gennym raglen o weithgareddau sydd  â’r nod o’ch cefnogi wrth i chi fynd i'r afael â'r heriau sydd ynghlwm wrth ddechrau rôl newydd. Rydyn ni’n cynnig ystod o adnoddau sy'n canolbwyntio ar gynyddu gwytnwch, rheoli straen, a chynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Nod ein rhaglen yw rhoi'r offer a'r strategaethau sydd eu hangen arnoch i ffynnu’n bersonol ac yn broffesiynol yn eich amgylchedd newydd.

Adnoddau e-Hwb

Mae rhagor o adnoddau ar yr e-Hwb, wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i gysylltu eich astudiaethau â nodau gyrfa ac i’ch helpu i lwyddo.