Ennill Profiad
GDG – Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Efallai y bydd angen gwiriad GDG arnoch chi ar gyfer rhai lleoliadau. Mae'r math o wiriad yn dibynnu ar natur a lleoliad y rôl.
Gallwch weld pa wiriad GDG sy’n iawn i chi yn https://www.gov.uk/find-out-dbs-check.
Mae rhai sefydliadau'n trefnu ac yn talu am wiriadau GDG, felly cadarnhewch gyda nhw yn gyntaf.
Os oes angen i chi drefnu eich GDG eich hun, e-bostiwch [email protected] yn gofyn am wiriad GDG gyda'r wybodaeth ganlynol:
- Ble mae’r profiad/lleoliad gwaith; er enghraifft, gweithio mewn Ysbyty
- Eich rôl tra ar brofiad/lleoliad gwaith.
- A yw eich lleoliad yn cynnwys cyswllt â phlant, oedolion agored i niwed, neu'r ddau.
- A ydych chi'n fyfyriwr cartref neu ryngwladol.
- Sylwer mai chi fydd yn gyfrifol am y gost.
Efallai y bydd angen hyd at 6 wythnos i gwblhau gwiriad GDG. Neilltuwch ddigon o amser i'ch gwiriadau gael eu prosesu.