Rhaglenni Profiad Rhithwir (RhPRh)
Bwriad y rhaglenni hyn yw rhoi profiad dysgu o bell i chi fydd yn eich galluogi i gwblhau gwaith/tasgau prosiect trwy ddefnyddio meddalwedd gydweithredol ar-lein, yn efelychu gweithgarwch yn y gweithle mewn amrywiol ddiwydiannau.
Her fer yn seiliedig ar ddiwydiant, wedi’i datblygu gyda'n partneriaid o blith cyflogwyr, yn rhoi mewnwelediad i rôl benodol yn eu sefydliad.
Gallwch ddileu unrhyw gyfyngiadau daearyddol a ffisegol a allai fel arall eich atal rhag mynd ar drywydd cyfle penodol a chael profiad gwaith heb adael eich gliniadur!
Mae pob RhPRh fel arfer yn cynnwys her ddiwydiannol fer neu gyfres o ymarferion sy'n rhoi mewnwelediad i chi i rôl benodol o fewn sefydliad.
Pethau i’w hystyried cyn i chi ddechrau RhPRh
Ystyriwch lle byddwch chi’n gwneud y gwaith. Lle tawel heb unrhyw beth i darfu arnoch chi yw'r lle gorau i ganolbwyntio.
Sicrhewch eich bod chi wedi darllen y wybodaeth ragarweiniol am y rhaglen i sicrhau ei bod yn addas ar eich cyfer chi.
Ar ôl i chi ddewis eich rhaglen, ymgyfarwyddwch â'r hyn y bydd disgwyl i chi ei wneud a cheisiwch gwblhau pob tasg yn drefnus er mwyn gallu gwneud yn fawr o’r profiad.
Rydyn ni’n gweithio'n rheolaidd gyda chyflogwyr i greu rhaglenni newydd fydd o ddiddordeb i chi. Cliciwch yma i weld yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r sefydliadau allanol canlynol i weld rhagor o gyfleoedd rhithwir: