Gyrfaoedd PDC

Ymunwch â'r Clwb Gyrfaoedd

Ymunwch â'r Clwb Gyrfaoedd Rydych chi bron â chyrraedd y llinell derfyn — ond beth sy'n dod nesaf? Y Clwb Gyrfaoedd yw eich ffordd i aros mewn cysylltiad â chyfleoedd, cefnogaeth a chyflogwyr wrth i chi symud o fywyd myfyriwr i'ch gyrfa.

Ymunwch Nawr Porwch Ddigwyddiadau Gyrfaoedd
student-life-outside-treforest-accommodation

Drwy ymuno, byddwch yn cael cymorth wedi'i deilwra, mynediad mewnol i ddigwyddiadau, a chefnogaeth barhaus hyd yn oed ar ôl i chi raddio.


Prif Fuddion

Cyfleoedd unigryw

Mynediad i ddigwyddiadau cyflogwyr, sesiynau mewnwelediad i'r diwydiant, sgyrsiau cyn-fyfyrwyr a gweithdai recriwtio wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn olaf.

Cefnogaeth go iawn pan fyddwch ei hangen

Bwciwch sesiynau galw heibio, mynychwch sesiynau wedi'u targedu, neu ceisiwch gymorth gyda cheisiadau, cyfweliadau neu benderfyniadau gyrfa - ar-lein neu ar y campws.

Cefnogaeth ar ôl graddio

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ar ôl i chi adael y brifysgol, fel y gallwch barhau i gael mynediad at gyngor, cyfleoedd ac arweiniad wrth i chi ddechrau eich gyrfa.

Offer y gallwch eu defnyddio unrhyw bryd

Mynediad 24/7 i adnoddau gyrfa, offer gyrfa AI a chymorth gyda cheisiadau trwy ein platfformau ar-lein.

Cymuned yn eich maes pwnc

Ymunwch â Chlwb Gyrfaoedd sydd wedi'i deilwra i'ch maes — o Fusnes i Ddiwydiannau Creadigol i Iechyd — fel eich bod yn cael cyngor perthnasol a chysylltiadau â chyflogwyr.

Student sat in the USW Careers office

Cofrestru unwaith. Cefnogaeth barhaus.

Cewch gymorth gyrfaoedd wyneb yn wyneb am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio, ynghyd â mynediad gydol oes i offer ac adnoddau ar-lein i'ch helpu i symud ymlaen.

Canllaw Graddedigion

Mae'r Canllaw Graddedigion yma i'ch helpu i lywio'ch camau nesaf – o gynllunio gyrfa a chwilio am swydd i astudio ymhellach, lles, a chadw mewn cysylltiad â PDC.

Lawrlwythwch y Canllaw