Mae bod yn agored i eraill yn egwyddor sylfaenol i ethos y Gaplaniaeth.  Rydym yn croesawu ac yn cynnwys pawb yn gynnes waeth beth fo’u hil, lliw, rhywedd, oedran, cenedligrwydd, amgylchiadau economaidd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, gallu corfforol neu feddyliol neu gyflwr emosiynol.

Fel rhan o'r natur agored honno, rydym yn sefyll ochr yn ochr â'n gilydd trwy ddathlu digwyddiadau sy'n bwysig yn ein plith. Ym mis Chwefror bob blwyddyn, rydym yn dathlu Mis Hanes LHDT, ac ar adegau eraill hefyd rydym yn cynnig cyfleoedd i drafod materion rhywioldeb a rhywedd.

Mae Cymdeithas LHDT+ i fyfyrwyr a Swyddogion Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd yn Undeb y Myfyrwyr.  Ar gyfer staff, mae SBECTRWM, y rhwydwaith LHDT+, ac mae un o'r Caplaniaid yn gynullydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected]

Mae'r Brifysgol yn cael ei chydnabod fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac mae'n falch bod un o'i staff yn Fodel Rôl Hoyw Stonewall yn 2019.

Os oes angen i chi siarad â rhywun am:

  • dderbyn eich rhywioldeb neu rywedd
  • gweithio trwy ansicrwydd
  • dod allan
  • cysylltu eich rhywioldeb â'ch ffydd
  • y ffordd y mae pobl eraill yn ymateb i'ch rhywioldeb
  • problemau perthynas
  • neu unrhyw beth arall ...

… mae'r Caplaniaid bob amser ar gael i siarad yn gwbl gyfrinachol.  Rydym yn addo peidio â’ch barnu, i barchu a gwerthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i chi, a gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch gweld chi pan fydd angen i chi ein gweld ni.