Ynglŷn â’r Gaplaniaeth
P'un a ydych yn fyfyriwr ym Mhontypridd, Caerdydd neu gampws Dinas Casnewydd, mae’r Gaplaniaeth ar gael i chi fel gwasanaeth agored a chadarnhaol. Rydym yn croesawu pobl i gyfranogi'n llawn ni waeth beth fo'u hil, lliw, rhywedd, oedran, cenedligrwydd, amgylchiadau economaidd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, gallu corfforol neu feddyliol neu gyflwr emosiynol.
Mae pobl yn dod o bob lliw a llun ac mae Prifysgol De Cymru yn dapestri cyfoethog o lawer o wahanol ddiwylliannau. Rydym yn ymwneud â galluogi pobl i gwrdd â'i gilydd a chreu cymuned. Er ein bod wedi’n gwreiddio yn y traddodiad Cristnogol, rydym yn parchu ffydd pawb ac rydym yn parchu barn ac archwiliad y rhai nad ydynt yn ymroddedig i unrhyw ffydd.
Ffydd, Diwylliant, Rhywedd neu Gyfeiriadedd Rhywiol
Mae’r Gaplaniaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn wasanaeth agored a chynhwysol i'r gymuned gyfan. Mae'n cynnig cymorth cyfrinachol ac anfarnol i staff a myfyrwyr beth bynnag fo'u ffydd, eu diwylliant, eu rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae croesawu amrywiaeth yn egwyddor sylfaenol i ethos y Gaplaniaeth. Os oes angen i chi siarad â rhywun am ddelio â'ch rhywioldeb neu ymateb pobl eraill iddo, problemau ynglŷn â dod allan, ac ati, rydym yn addo eich parchu fel yr ydych a gwneud ein gorau glas i'ch cefnogi.
Mae'r Gaplaniaeth yn cynnig:
- croeso cyfeillgar: dewch draw i'r Tŷ Cwrdd, neu cysylltwch â ni unrhyw bryd drwy e-bost neu ffôn
- clust i wrando: mae croeso i chi siarad yn gyfrinachol gyda Chaplan am unrhyw broblemau, cyfyng-gyngor moesegol, ansicrwydd a chwestiynau bywyd a all fod gennych. Does dim angen aros i argyfwng ddigwydd – dewch i gael sgwrs unrhyw bryd. Rydym yn addo gwrando heb farnu, helpu pryd bynnag y gallwn, a gwneud pob ymdrech i fod yno i chi pan fydd angen cymorth arnoch.
- gwybodaeth am grwpiau ffydd: gallwch ein ffonio gydag ymholiadau am addoldai yn ardal y brifysgol neu ddod o hyd i siopau a marchnadoedd sy'n darparu ar gyfer anghenion crefyddol.
- y Tŷ Cwrdd: cartref y Gaplaniaeth ar gampws Trefforest a'r ganolfan ar gyfer llawer o'i gweithgareddau. Mae'n lle i ymlacio, i eistedd yn dawel neu i drefnu partïon, digwyddiadau a chyfarfodydd gyda ffrindiau.
- cyfleoedd i addoli: Cânt eu trefnu gan y Gaplaniaeth a chan wahanol grwpiau o fyfyrwyr o wahanol ffydd drwy gydol y flwyddyn. Beth bynnag yw eich ffydd, rydym yma i'ch helpu. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Ymarfer Eich Ffydd.
- seminarau a grwpiau trafod: mae'r Gaplaniaeth a grwpiau gwahanol o staff a myfyrwyr yn trefnu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl rannu syniadau a thrafod pynciau. Gallwch naill ai ymuno â grŵp, dechrau un, neu awgrymu syniad i'r Gaplaniaeth ei ystyried.
- gweithgareddau cymdeithasol: trwy gydol y flwyddyn mae'r Gaplaniaeth yn trefnu nifer o weithgareddau cymdeithasol hwyliog. Mae’r Tŷ Cwrdd hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a drefnir gan grwpiau myfyrwyr. Os hoffech drefnu rhywbeth cysylltwch â'r Gaplaniaeth. Os hoffech chi gael gwybod am ddigwyddiadau sydd i ddod, ewch i'n tudalen we Digwyddiadau.
- cyfleoedd gwirfoddoli: fel gwirfoddolwr bydd amrywiaeth eang o ffyrdd y gallwch ddod yn rhan o'n tîm. Rydym bob amser yn edrych i ddarparu cyfleoedd cyffrous a hwyliog i chi gymryd rhan yn ein gwaith. I weld rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Gwirfoddoli yn y Tŷ Cwrdd.