PREVENT
Rôl y Gaplaniaeth wrth weithredu'r agenda PREVENT ym Mhrifysgol De Cymru.
Yn 2015 pasiodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth newydd yn gosod dyletswyddau ar Sefydliadau Addysg Uwch i roi sylw dyledus i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth. Gelwir hyn yn agenda PREVENT. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ryddid i lefaru gan alluogi myfyrwyr a staff i allu herio uniongrededd cyffredinol a mynegi syniadau a all fod yn radicalaidd ac yn ddadleuol.
Ar yr un pryd, fel cymuned ryngwladol a diwylliannol amrywiol, mae'n ddyletswydd arnom i greu man lle gall staff a myfyrwyr weithio ac astudio heb eu rhwystro gan elyniaeth neu fygythion. Mae gennym hefyd ddyletswydd gofal i'r rhai yn ein cymuned a allai fod yn agored i ddylanwad grwpiau eithafol neu gael eu denu at weithgarwch treisgar. Mae'r Llywodraethwyr wedi cymeradwyo Cod Ymarfer Rhyddid i Lefaru newydd fel sylfaen i gydymffurfiaeth y Brifysgol yn y maes hwn ac maent hefyd wedi cymeradwyo Protocol PREVENT a Pholisi Siaradwyr Allanol.
Mae'r Gaplaniaeth yn cefnogi'r Brifysgol i weithredu'r agenda hon trwy gymryd rôl gydlynu ar draws y sefydliad. Penodwyd Michelle Romaniw, Pennaeth Gwasanaethau Caplaniaeth, yn Arweinydd PREVENT y Brifysgol a'r Un Man Cyswllt ar gyfer materion yn ymwneud â PREVENT yn fewnol ac yn allanol. Gellir cysylltu â hi yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau.
Mae cwrs hyfforddiant ymwybyddiaeth PREVENT yn y Brifysgol sydd wedi'i gynllunio i ymgyfarwyddo staff â materion PREVENT a phrosesau'r Brifysgol sydd ar waith i ymdrin ag unrhyw faterion a allai godi. Anogir staff i fynychu un o'r sesiynau hyfforddi hyn a dylent neilltuo lle trwy fynd i'r adran Gyrfaoedd a Datblygu yn y porth Fy Ngwybodaeth (mae angen manylion mewngofnodi staff) i neilltuo lle neu ychwanegu eich hun at y rhestr aros.