Gwneud Cais

Cynigion Amgen

Os na allwn gynnig lle i chi ar y cwrs gwreiddiol o’ch dewis, efallai y bydd angen i ni eich ystyried ar gyfer cwrs arall. Mae ein cynigion amgen, y cyfeirir atynt yn aml fel cynigion cwrs wedi’u newid, fel arfer mewn pwnc cysylltiedig.

Gwneud Cais
Hands of an unrecognisable person typing on a laptop

Byddwn yn gwneud cynnig cwrs wedi’i newid pan na fydd eich cymwysterau a/neu eich graddau’n cyflawni’r meini prawf mynediad yn llwyr ar gyfer eich dewis cyntaf ond pan fyddant yn cyflawni’r meini prawf ar gyfer cwrs amgen.   

Gallai cynigion amgen gynnwys un o gyrsiau gwahanol, cysylltiedig Prifysgol De Cymru, lle ar gwrs Tystysgrif Addysg Uwch (Cert HE) neu gwrs blwyddyn sylfaen. 

Os na fyddwch yn llwyddo i sicrhau’r graddau ar gyfer un o’n cyrsiau gradd, ein cyrsiau Cert HE neu gwrs ‘blwyddyn gyntaf a gefnogir’ yw’r dewis nesaf gorau.  Byddwch yn astudio’r un modiwlau ac yn mynychu’r un dosbarthiadau â myfyriwr ar gwrs gradd blwyddyn gyntaf arferol, ond byddwch hefyd yn mynychu dosbarth ychwanegol a fydd yn eich helpu i wella eich sgiliau astudio a’ch rhoi ar ben ffordd eto. 

Os byddwch yn pasio’r flwyddyn gyntaf a gefnogir, gallwch ymuno â’ch cyd-fyfyrwyr ar ail flwyddyn cwrs gradd safonol a gwneud cynnydd arferol.  Felly, gallwch barhau i gwblhau gradd gyda ni mewn tair blynedd. 

Oherwydd bod Cert HE yn gymhwyster un flwyddyn unigol, bydd angen i chi gyflwyno cais uniongyrchol i gadarnhau eich bod yn dymuno parhau o’r Cert HE i ail flwyddyn eich gradd.  Cyhyd ag y byddwch yn pasio eich Cert HE, dyma’r unig fater ffurfiol ar gyfer creu eich cofnod myfyriwr newydd ac, wrth wneud cais yn uniongyrchol, ni fydd unrhyw ffi gwneud cais. 

Mae ein cyrsiau Cert HE yn boblogaidd iawn, bydd pobl eraill yn yr un sefyllfa â chi, a bydd ffioedd y cwrs yn union yr un peth â’r cwrs gradd. 

Rydym yn cynnig rhaglenni gradd pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaenol integredig mewn nifer o feysydd pwnc ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn cyflawni’r meini prawf mynediad i fynd yn uniongyrchol i flwyddyn gyntaf cwrs gradd ym Mhrifysgol De Cymru. 

Os bydd eich cwrs wedi newid, a’ch bod eisoes wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr, bydd angen i chi ddiweddaru eich cais am gyllid ar-lein cyn gynted â phosibl gyda gwybodaeth am y cwrs newydd.  Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i’ch cais ar-lein yn y wefan berthnasol isod, a chwblhau proses ‘Newid mewn Amgylchiadau’ gyda gwybodaeth y cwrs newydd.  Bydd angen eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN) arnoch a chyfrinair er mwyn mewngofnodi. 

Os na allwch gofio eich cyfrinair neu CRN, gallwch ail-osod eich manylion mewngofnodi drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar-lein: 

Os ydych yn ystyried cwrs Cert HE, mae yna rywfaint o wybodaeth bwysig y dylech ei gwybod am gyllido.  Er y gallwch symud ymlaen i’r blynyddoedd sy’n weddill ar gwrs gradd llawn ar ôl pasio’r flwyddyn gyntaf a gefnogir, pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr, mae’r Cert HE yn cael ei ystyried fel cwrs un flwyddyn, gyda dyddiad dechrau ym Medi 2019 a dyddiad cwblhau ym Mehefin 2020.  Mae hyn yn golygu y byddwch ond yn gallu gwneud cais am gyllid ar gyfer yr hyn a elwir yn gwrs ‘blwyddyn olaf’ yn ystod y flwyddyn hon.  

Noder bod y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer cwrs blwyddyn olaf ychydig yn is na chwrs blwyddyn lawn, a nodir eich hawliad newydd yng nghanlyniad eich ailasesiad ar gyfer cyllid. 

Fel gyda phob dyfarniad cyllid arall, wrth i chi symud o un flwyddyn i’r un nesaf, bydd angen i chi wneud cais o’r newydd am gyllid pob blwyddyn.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyllid, cysylltwch â’r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ar 01443 483778. 

Os ydych wedi derbyn cynnig ar gyfer cwrs gwahanol, yr ydych wedi’i dderbyn, a’ch bod eisoes wedi gwneud cais am le yn ein neuaddau preswyl, yna ni fydd eich cais yn cael ei effeithio. 

Campysau Pontypridd a Chaerdydd 
Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan ein Tîm Llety yn ystod yr haf, a fydd yn cysylltu â chi i gadarnhau a oes ystafell wedi’i dyrannu ar eich cyfer a bydd angen i chi ymateb i’w e-bost i sicrhau eich lle.  Bydd eu neges e-bost yn cadarnhau’r dyddiad y bydd angen i chi wneud cais o’r newydd.  

Campws Casnewydd 
Byddwch yn clywed gan ein Tîm Llety yn ystod yr haf ac mae’n debygol y bydd gennych eich lle o hyd yn y neuadd breswyl. 

Gwneud cais am lety 
Os ydych yn gwneud cais drwy’r system Glirio ac nad ydych wedi gwneud cais am lety gyda ni hyd yma, gallwch gael gwybodaeth am argaeledd hwyr llety ar ein gwefan llety. 

Os ydych wedi gwneud cais i ni yng nghylch gwneud cais arferol UCAS a’ch bod wedi derbyn cynnig amgen / newid cwrs, yna mae angen i chi fewngofnodi i’ch Tracio eich Cais UCAS a naill ai derbyn neu wrthod ein cynnig. 

Os ydych wedi gwneud cais uniongyrchol i ni mae angen i chi fewngofnodi i’ch Porth Ymgeisydd ar ein gwefan a naill ai derbyn neu wrthod ein cynnig.  Os byddwch yn derbyn y cwrs amgen, anfonir gwybodaeth am gofrestru a sefydlu atoch i ddechrau ym mis Medi 2019. 

Anfonir gwybodaeth am gofrestru a sefydlu o ddechrau mis Awst ymlaen fel arfer.