Mae'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) yn agored i fyfyrwyr israddedig y flwyddyn olaf a dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud am eich profiad yn y brifysgol. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi ddweud wrthym sut rydych yn teimlo y gellid gwella pethau.

Pam ddylwn i gymryd rhan?

  • Gallwch roi adborth gonest ar eich profiad dysgu
  • Defnyddir eich adborth i wella'r profiad dysgu yn y Brifysgol
  • Cymerir y canlyniadau o ddifrif ac maent yn llywio'r system sicrwydd ansawdd o ran ansawdd addysgu
  • Caiff canlyniadau eu defnyddio gan ddarpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau ar beth a ble i astudio

Mwy am yr NSS

Mae’r NSS yn arolwg blynyddol a gydnabyddir yn genedlaethol o israddedigion blwyddyn olaf yn y DU. Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi eu barn ar yr hyn yr oeddent yn ei hoffi am eu hamser yn y Brifysgol yn ogystal â'r pethau y teimlent y gellid bod wedi'u gwella.

Gweinyddir yr arolwg gan Ipsos, asiantaeth ymchwil i'r farchnad annibynnol, felly erys atebion yn ddienw bob amser.

Raffl gwobrau am ddim!

Drwy gwblhau’r ACF byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig mewn Raffl Gwobrau am gyfle i ennill un o ddeg taleb rhodd gwerth £100. Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol.

Pam rydym wedi diweddaru gwybodaeth am y raffl gwobrau

Rydym wedi cyhoeddi'r Telerau ac Amodau hyn i wneud proses raffl gwobrau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn glir, yn deg ac yn dryloyw i bob myfyriwr sy'n cystadlu yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Nid oes dim wedi newid am yr arolwg, pwy all gymryd rhan, y gwobrau, y dyddiadau, na'r gofynion cymhwysedd.

Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu drwy e-bost o ddiwedd mis Mai 2026 ar ôl i'r arolwg gau. 

Sut ydw i’n ei gwblhau?

Gallwch ddod o hyd i'r arolwg NSS ar-lein yn www.thestudentsurvey.com

Bydd arweinydd eich cwrs yn siarad â chi ymlaen llaw am yr arolwg.  Ar neu o gwmpas y 5 Chwefror, byddwch yn derbyn e-bost gwahoddiad i gwblhau'r arolwg gan Ipsos.  Yn ddiweddarach, cysylltir drwy'r post neu dros y ffôn â'r rhai nad ydynt wedi ymateb i’r e-bost.

Beth sy'n digwydd gyda'r canlyniadau?

Cyhoeddir canlyniadau'r NSS i helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a beth i'w astudio.  Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr hefyd yn defnyddio'r data i nodi meysydd o gryfderau a gwendidau. Mae hyn yn galluogi'r Brifysgol i ganolbwyntio ymdrechion ar wella’r profiad  myfyriwr i genedlaethau'r dyfodol o fyfyrwyr.

Mae data o arolygon blaenorol ar gael ar Darganfod Prifysgo.

Diogelu data

Mae eich ymateb yn ddienw, fel y gall eich atebion adlewyrchu eich canfyddiadau dilys o'ch profiad. Nid oes angen poeni bod eich manylion cyswllt yn cael eu trosglwyddo; dim ond at ddibenion yr NSS y cânt eu defnyddio ac fe’u dinistrir yn fuan wedi hynny.

student-25

Neges gan y Is-Ganghellor Dros Dro

"Fy enw i yw Dr James Gravelle ac fi yw'r Is-Ganghellor Dros Dro yma yn PDC.

"Un o brif agweddau fy rôl yw sicrhau ein bod yn darparu profiad rhagorol i'n holl fyfyrwyr; mae'r adborth a gawn yn ystod yr arolwg hwn yn eithriadol o bwysig ac mae'n ein helpu i ddeall ble rydym yn gwneud yn dda a ble y dylem wella. Mae'r cwestiynau'n ymwneud â'ch profiad dros gyfnod eich astudiaethau a chewch gyfle i fwydo'n ôl ar feysydd allweddol gan gynnwys yr addysgu, asesu ac adborth a'r cymorth academaidd yr ydych wedi'i brofi drwy gydol eich amser fel myfyriwr.

"Diolch am gymryd yr amser i gwblhau'r arolwg."