Canolfan Arloesi
Beth yw'r Ganolfan Arloesi?
Mae’r Ganolfan Arloesi yn gyfuniad o staff a myfyrwyr ar draws sawl maes pwnc sy’n cynnig cyrsiau bach, cymorth a chyngor, cysylltiadau a phrosiectau diwydiannol, cystadlaethau, a’r cyfle i greu eich syniadau eich hun.
Rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau sy'n cynnig cyfleoedd i wneud cysylltiadau, i ddysgu mwy am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig ac i gael profiadau ymarferol.
Mae gennym ni offer o'r radd flaenaf i'ch galluogi i greu prosiectau, gan gynnwys argraffu 3D cyflym, torri â laser a sodro.
Mae'r gweithgareddau yn y Canolfan Arloesi yn agored i bob myfyriwr a phob aelod o staff (oni nodir yn wahanol).
Pam ddylwn i gymryd rhan?
Gyda'r nifer o gyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig yn y Ganolfan Arloesi, gallwch chi:
- Ddysgu sgil newydd
- Gwella eich gwybodaeth
- Gwneud ffrindiau
- Cwrdd â thimau ar draws PDC sydd eisiau eich helpu chi a'ch gyrfa yn y dyfodol
- Creu cysylltiadau â diwydiant
- Creu rhywbeth sydd ei angen arnoch
- Trwsio rhywbeth sydd wedi torri
- Gwella eich CV
A allaf ddylunio ac adeiladu fy syniad?
Gwahoddir yr holl staff a myfyrwyr i ddefnyddio'r Ganolfan Arloesi i wireddu eu syniadau.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni sicrhau bod pawb yn ddiogel wrth ddefnyddio'r offer. Felly, cyn y gallwch ddefnyddio'r Ganolfan Arloesi yn ystod yr 'Oriau Agor' rhaid i chi gwblhau cynllun pasbort y Ganolfan Arloesi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Blackboard.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Gall myfyrwyr PDC (a staff) ymuno â chwrs Canolfan Arloesi ar Blackboard i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau, grwpiau a chlybiau, oriau agor a chyfleoedd gwirfoddoli.
Os nad oes gennych chi fynediad at dudalennau Blackboard eto, siaradwch ag arweinydd eich cwrs/pennaeth pwnc neu anfonwch e-bost at [email protected].