Benthyg Gliniaduron i Fyfyrwyr PDC
Mae gan PDC liniaduron ar gael i'w benthyg i'n myfyrwyr, am ddim, ar draws ein holl gampysau.
- Mae benthyciadau'n para am hyd at saith diwrnod.
- Os oes angen gwefrydd arnoch, gallwch fenthyg un ar wahân.
- Peidiwch â chadw ffeiliau ar storfa fewnol y gliniadur yn unig! Rydyn ni’n argymell eich bod yn cadw’r rhan fwyaf o’ch gwaith i'ch OneDrive PDC.
Os na chei di’r hyn sydd ei angen arnat ar y dudalen hon, cysyllta â Chymorth TG PDC am ragor o gymorth gyda benthyciadau gliniaduron a’r system loceri benthyciadau gliniaduron.
Am ba mor hir y gallaf fenthyg gliniadur?
Mae gliniaduron yn cael eu benthyg am hyd at saith diwrnod ar y tro.
Mae'r dyddiad a'r amser dychwelyd i’w gweld ar sgrîn y locer pan fyddwch chi'n benthyg gliniadur, ac mae'r wybodaeth hon hefyd yn cael ei hanfon at eich cyfeiriad e-bost myfyriwr. Rhaid dychwelyd y gliniadur i'r locer y cafodd ei gasglu ohono, ar neu cyn y dyddiad a'r amser dychwelyd.
Fel arfer, ni allwch fenthyg gliniadur am fwy na saith diwrnod, ond gallwch fenthyg gliniadur arall yn syth ar ôl i chi ddychwelyd un, a gallwch chi wneud hyn eto ac eto am gyfnod amhenodol, ar yr amod eich bod chi bob amser yn dychwelyd dyfeisiau ar amser ac mewn cyflwr da. Efallai na fyddwch chi'n cael yr un gliniadur bob tro, felly peidiwch â chadw eich gwaith i'r gliniadur – rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cadw’r rhan fwyaf o waith i'ch OneDrive PDC.
Sut i fenthyg gliniadur
Mae gliniaduron ar gael o loceri hunanwasanaeth yn y lleoliadau isod. Nid yw'n bosibl archebu gliniadur ymlaen llaw.
I fenthyg gliniadur:
▪ Ewch i locer
▪ Tapiwch eich cerdyn adnabod myfyriwr
▪ Derbyniwch y telerau ac amodau
▪ Bydd drws yn agor a gallwch gymryd y gliniadur
Os oes angen gwefrydd arnoch bydd angen i chi fenthyg un ar wahân, gweler isod.
Lleoliadau benthyg gliniadur
Trefforest
Llyfrgell Trefforest - 96 o liniaduron
Brecon - 55 o liniaduron
Glyn-nedd, G410 - 24 o liniaduron
Faint sydd ar gael ar hyn o bryd
Brecon - 55 o liniaduron
Glyn-nedd, G410 - 24 o liniaduron
Faint sydd ar gael ar hyn o bryd
Caerdydd
Llyfrgell Caerdydd - 24 o liniaduron a 24 Macbook
Y Stryd - 60 MacBook
Glyn-taf
Llyfrgell Glyn-taf - 24 o liniaduron
Adeilad Elaine Morgan, y Parth - 48 o liniaduron
Glyn-taf Uchaf, Caffi Matrix - 24 o liniaduron
Casnewydd
Llyfrgell Casnewydd - 12 o liniaduron
Cyntedd - 48 o liniaduron
Parc Chwaraeon
PSC113 - 24 MacBook
Meddalwedd
Gliniaduron Windows
Mae gliniaduron Windows yn dod gydag apiau Microsoft 365 (gan gynnwys Word ac Excel), a gallwch osod apiau o UniApps. Ni allwch osod unrhyw feddalwedd arall, e.e. gemau.
Gliniaduron Apple Mac
Mae Macs yn dod gydag ystod o feddalwedd safonol. Nid oes unrhyw ffordd o ddefnyddio UniApps neu osod meddalwedd arall.
Storio ffeiliau ar liniaduron
Mae storfa gliniaduron sydd ar gael i’w benthyg yn cael ei glanhau o bryd i'w gilydd, felly peidiwch â chadw ffeiliau ar storfa fewnol y gliniadur yn unig. Rydyn ni’n argymell eich bod yn cadw’r rhan fwyaf o’ch gwaith i'ch OneDrive PDC. Chi sy'n gyfrifol am storio a gwneud copi wrth gefn o'ch ffeiliau eich hun.
Pweru'r gliniadur
Gellir defnyddio gliniaduron a'u pweru o'r gorsafoedd docio sydd ar gael yn llyfrgelloedd PDC.
Nid yw gwefrwyr yn cael eu darparu fel mater o drefn gyda gliniaduron benthyg. Os oes angen gwefrydd arnoch, gallwch fenthyg un fel eitem ar wahân o lyfrgell PDC. Mae gwefrwyr yn cael eu storio ar wahân i'r gliniaduron, ger y peiriant hunan-wasanaeth ar gyfer eitemau llyfrgell. Gallwch fenthyg gwefrydd yn yr un ffordd ag y byddech chi'n benthyg llyfr o'r llyfrgell.
DS: sicrhewch fod y gwefrydd yn cael ei ddychwelyd i'r llyfrgell, nid yn cael ei roi yn y locer gyda'r gliniadur.
Telerau ac Amodau
Pan fyddwch chi'n benthyg gliniadur, bydd yn rhaid i chi gytuno i rai telerau, trwy bwyso "Cytuno" ar sgrin locer y gliniadur. O 10 Mawrth 2026, y telerau hyn yw:
“Mae pob defnyddiwr yn rhwym wrth Reoliadau Cyffredinol y Brifysgol a'r Cod Ymddygiad Defnydd Derbyniol o Gyfleusterau TGCh yn y Brifysgol ac is-gwmnïau.
Rhaid dychwelyd gliniaduron i'r locer gliniaduron cywir a'u hailgysylltu â'r weiren bŵer a ddarperir erbyn diwedd y cyfnod benthyg.
Cewch eich atal rhag defnyddio’r gwasanaeth dros dro os byddwch yn ei ddychwelyd yn hwyr.
Gellir benthyg gwefrwyr o CAD eich campws trwy'r peiriannau hunan-wasanaeth.
Y defnyddwyr sy’n gyfrifol am ddiogelwch y gliniadur tra ei fod ar fenthyg. Os bydd gliniadur yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddychwelyd wedi'i ddifrodi neu gyda rhannau ar goll, gallai defnyddwyr fod yn atebol am y gost o ddisodli neu atgyweirio hyd at uchafswm o £850.00 am Liniadur Windows neu £1619.10 am MacBook.
Mewn achos o nam gyda'r gliniadur a fenthycwyd, defnyddiwch yr opsiwn adrodd nam wrth ddychwelyd y ddyfais i ganiatáu i ni ymchwilio."
Sut i ddychwelyd gliniadur
I ddychwelyd gliniadur, ewch ag ef yn ôl i'r locer y gwnaethoch ei gasglu ohono. Ni allwch ddychwelyd gliniadur i locer gwahanol.
Gwnewch yn siŵr bod y cortyn pŵer USB-C y tu mewn i'r locer wedi'i gysylltu'n iawn â'r gliniadur a bod y golau wrth ymyl y locer yn goleuo i nodi bod y system wedi canfod y gliniadur, sy'n cwblhau'r broses ddychwelyd.
Os na fyddwch chi'n plygio'r gliniadur i mewn, anfonir e-bost atoch yn dweud wrthych nad oedd y broses ddychwelyd yn llwyddiannus a bydd disgwyl i chi ddychwelyd i'r locer, sganio'ch cerdyn, clicio dychwelyd i ailagor y locer, ac yna plygio'r gliniadur i mewn yn iawn.
Dychwelyd yn hwyr
Os yw myfyrwyr yn dychwelyd gliniadur yn hwyr, bydd y system yn eu hatal rhag benthyg gliniadur arall am saith diwrnod calendr o'r adeg y dychwelwyd y ddyfais hwyr.
Cânt eu hatal rhag defnyddio’r system loceri benthyg gliniaduron yn unig – ni fydd yn effeithio ar eu cyfrif TG PDC mewn unrhyw ffordd arall. Byddant yn dal i allu cael mynediad i'r holl wasanaethau a defnyddio'r cyfrifiaduron labordy neu ddyfeisiau eraill.
Gall myfyrwyr sy'n dychwelyd dyfeisiau’n hwyr dro ar ôl tro neu sy'n camddefnyddio’r system gael eu hatal am gyfnod hirach, yn dibynnu ar ba mor aml mae’r dyfeisiau’n cael eu dychwelyd yn hwyr ac am ba hyd maen nhw’n cael eu cadw wedi’r terfyn amser.
Alla’ i gael amser ychwanegol ar fenthyciad? Rydw i wedi cael problem.
Os oes gennych reswm gwirioneddol dros fethu â dychwelyd y gliniadur erbyn y dyddiad a'r amser dychwelyd, rhowch wybod i TG PDC drwy Cymorth TG PDC cyn bod y gliniadur i fod i gael ei ddychwelyd.
Yn ôl eu disgresiwn, gall TG PDC ychwanegu amser at y benthyciad.
Rhoi gwybod am namau
Os cewch broblem gyda'r gliniadur benthyg tra byddwch chi'n ei ddefnyddio, a bod angen ei drwsio er mwyn i chi allu parhau i weithio, cysylltwch â Cymorth TG PDC.
Pan fyddwch chi'n dychwelyd y gliniadur i'w locer, bydd y system yn gofyn i chi a oedd unrhyw broblemau.
Gallwch roi gwybod am namau gyda’r Wi-Fi, y sgrîn arddangos, sain ac ati. Bydd adroddiad nam yn marcio'r gliniadur fel un sydd allan o wasanaeth, bydd TG PDC yn gwybod bod angen iddyn nhw edrych arno, ac ni fydd myfyriwr arall yn cael y gliniadur diffygiol.
Colli neu ddifrodi gliniadur
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw’r gliniadur sydd ar fenthyg ganddo.
Os bydd y ddyfais wedi’i cholli neu os na chaiff ei dychwelyd i'r locer am gyfnod estynedig o amser, bydd cost lawn y ddyfais yn cael ei anfonebu i'r myfyriwr.
Os bydd difrod bwriadol neu esgeulus i'r gliniadur, bydd y myfyriwr yn cael ei anfonebu am y gost lawn o'i atgyweirio, neu am gost lawn gliniadur newydd os oes angen.
Cysylltu am fwy o gymorth
Am help gyda gliniaduron benthyg, neu'r system loceri benthyg gliniaduron, cysylltwch â Cymorth TG PDC.