Mae MapsIndoors yn offeryn llywio digidol i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch ein campysau.

Yn ogystal â dangos i chi ble mae ystafell ar y campws, gall MapsIndoors eich tywys yr holl ffordd yno gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam – hyd yn oed o'r tu allan i'r adeilad. Mae'r feddalwedd yn gweithio mewn ffordd debyg i Google Maps.

Gallwch gael mynediad i MapsIndoors gan ddefnyddio'r dolenni canlynol:

Beth all MapsIndoors ei wneud?

Gall MapsIndoors eich helpu i ddod o hyd i ystafelloedd darlithio, mannau astudio, gwasanaethau a chyfleusterau. Gallwch ei ddefnyddio i:

  • Chwilio am ystafell, yn ôl cod neu enw'r ystafell
  • Defnyddio'ch lleoliad presennol ar y campws neu nodi man cychwyn
  • Cael cyfarwyddiadau clir yn syth i'ch cyrchfan
  • Dod o hyd i gyfleusterau cyfagos fel caffis, lifftiau, toiledau neu theatrau darlithio
  • Gweld llwybrau amgen os yw ardal ar gau neu os nad yw ar gael

Mae MapsIndoors ar gael ar eich ffôn neu gyfrifiadur, gan ei gwneud hi'n hawdd gwirio cyfarwyddiadau lle bynnag yr ydych. Rhowch eich lleoliad, nodwch eich cyrchfan a gwyliwch wrth i'r feddalwedd eich tywys i ble yn union y mae angen i chi fynd ar y campws.

Angen help?

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at MapsIndoors neu os gwelwch chi rywbeth sydd angen ei ddiweddaru, gallwch wneud cais trwy Gymorth TG.