Dylech flaenoriaethu’ch diogelwch eich hun, a thra bod y brifysgol yn le diogel ar y cyfan, mae’n bosib y bydd  sefyllfaoedd lle na fyddwch yn sicr sut i ymddwyn neu’r hyn a ddisgwylir gennych. Mae'r tudalennau isod yn mynd i’r afael ag ambell i gyd-destun lle y gall myfyrwyr ddod ar draws sefyllfaoedd anodd. Ceir gyngor ar sut i ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am berthynas PDC â'r heddluoedd lleol a sut y gallant eich cefnogi pe byddech mewn sefyllfa anniogel.

Efallai mai'r Brifysgol yw'r tro cyntaf i chi gael parti neu efallai eich bod wedi cael profiadau blaenorol gartref, yn y naill achos neu'r llall mae'n hawdd iawn mynd i drafferthion o dan yr amgylchiadau anghywir. Darganfyddwch fwy am sut y gallwch chi barti'n ddiogel.

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd cyffuriau, fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus a blaenoriaethu gofalu amdanoch eich hun.

Ymwybyddiaeth o Gyffuriau

 

P'un a ydych wedi cael rhyw o'r blaen neu'n ystyried cael rhyw am y tro cyntaf, mae'n bwysig gwybod sut y gallwch chi gadw'ch hun a'ch partner yn ddiogel. Edrychwch ar wybodaeth Gwasanaeth Iechyd PDC ar Les Rhywiol.

Mae PDC yn gweithio'n agos gyda'n heddluoedd lleol i sicrhau diogelwch myfyrwyr PDC. Dysgwch fwy am ba heddlu sy'n gofalu am eich campws a sut y gallwch ymgysylltu â'r heddlu tra yn y brifysgol.

Dysgwch fwy am hanfodion cydsynio fel y gallwch sicrhau bod eich partner(iaid) yn cydsynio'n frwd i gyfathrach rywiol.

Mae gan bawb ym Mhrifysgol De Cymru yr hawl i deimlo'n ddiogel ac i gael eu cefnogi.

Mae gwyliwr grymus yn rhywun sy'n dewis cymryd camau i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol mewn ffyrdd sy'n effeithio'n gadarnhaol ar y canlyniad.