Dylai'r dudalen hon ddarparu'r holl ddolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prifysgol De Cymru a'ch Coleg Partner. Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau a chysylltiadau'r ddau sefydliad.

PDC 

Ardaloedd Cynghori PDC
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.

Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.

Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.

Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.

Blackburn College

Canolfan y Brifysgol
Dilynwch y dolenni o dudalen Canolfan y Brifysgol.

PDC 

Ailosod eich cyfrinair PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.

Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.

Blackburn College

E-bost Myfyriwr
Mewngofnodwch i'ch e-bost myfyriwr.

OneDrive
Mewngofnodwch i'ch ardal OneDrive a rennir.

Office 365
Cyrchwch eich pecyn Microsoft Office rhad ac am ddim.

PDC 

Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.

Blackburn College

Graddio
Y newyddion diweddaraf am Raddio.

PDC 

Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.

Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.

 

PDC – Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn cadarnhau eich statws i'ch darparwr benthyciad i fyfyrwyr (os ydych wedi gwneud cais). Gwiriwch gynnydd eich cadarnhad am gyllid myfyrwyrar-lein
  • Ni sy’n achredu eich cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
  • Amgylchiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
  • Torri ar draws Astudiaethau
  • Cwynion ac apeliadau academaidd
  • Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
  • Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
  • Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio

Blackburn College - Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
  • Bydd ein tîm Gwasanaethau Dysgwyr yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG Blackburn College, mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr trwy Office365.com.

Cysylltiadau

PDC: E-bostiwch [email protected] 

Blackburn College: E-bostiwch [email protected]