Dylai'r dudalen hon ddarparu'r holl ddolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prifysgol De Cymru a'ch Coleg Partner. Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau a chysylltiadau'r ddau sefydliad.

PDC

UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.

Llyfrgell PDC
Cyrchwch Adnoddau Llyfrgell PDC.

Cyfeirnodi
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirnodi Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.

Ymrestru gyda PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC ymrestru (cofrestru) gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.

Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.

Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.

Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.

Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw cryno i reoliadau a gweithdrefnau’r brifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.

PDC

Ailosod eich cyfrinair PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.

Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.

PDC

Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.

PDC

Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.

Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.

PDC – Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn cadarnhau eich statws i'ch darparwr benthyciad i fyfyrwyr (os ydych wedi gwneud cais). Gwiriwch gynnydd eich cadarnhad am gyllid myfyrwyrar-lein
  • Ni sy’n achredu eich cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
  • Amgylchiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
  • Torri ar draws Astudiaethau
  • Cwynion ac apeliadau academaidd
  • Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
  • Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
  • Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio

Coleg Gwent - Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
  • Bydd ein Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG Coleg Gwent,
  • mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr trwy Office365.com.

Telerau, amodau a pholisïau Addysg Uwch.

Cysylltiadau

PDC: E-bostiwch [email protected]  

Coleg Partner: Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau Coleg Gwent? Cysylltwch â'r Cynorthwywyr Gwasanaethau Myfyrwyr yn nerbynfa eich campws, neu [email protected]