Dylai'r dudalen hon ddarparu'r holl ddolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prifysgol De Cymru a'ch Coleg Partner. Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau a chysylltiadau'r ddau sefydliad.

PDC

UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.

Llyfrgell PDC
Cyrchwch Adnoddau Llyfrgell PDC.

Cyfeirnodi
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirnodi Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.

Ymrestru gyda PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC ymrestru (cofrestru) gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.

Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.

Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.

Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.

Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw cryno i reoliadau a gweithdrefnau’r brifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.

Y Coleg Merthyr Tudful

Dim dolenni perthnasol

PDC

Ardaloedd Cynghori PDC
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.

Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Rydym yn cynnig ein Bwrsariaeth Dilyniant i fyfyrwyr sy'n dewis ychwanegu at eu HND neu radd sylfaen PDC i radd anrhydedd lawn yn un o'n campysau PDC.

Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.

Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.

Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.

Y Coleg Merthyr Tudful

Bywyd Myfyriwr - Trosolwg o wasanaethau a chyfleoedd i fyfyrwyr y Coleg.

Cymorth i Fyfyrwyr - Mae gan y coleg nifer o strwythurau cymorth ar waith i'ch helpu a'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau.

Ffioedd a Chyllid - Trosolwg o ffioedd dysgu a chymorth ariannol i fyfyrwyr.  Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch.

Cyfoethogi - Ehangwch eich gorwelion a gwneud y mwyaf o'ch potensial wrth gyfrannu'n gadarnhaol at y Coleg a bywyd cymunedol.

PDC

Ailosod eich cyfrinair PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.

Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.

Y Coleg Merthyr Tudful

Porth Myfyrwyr - Cyrchwch wasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau llyfrgell ar-lein.

E-bost - Cyrchwch eich cyfrif e-bost myfyriwr, a ddarperir trwy Office 365.

Moodle- Mae Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Coleg yn cynnwys deunyddiau ar gyfer cyrsiau a mwy.

PDC 

Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.

Y Coleg Merthyr Tudful

Dim dolenni perthnasol

PDC

Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.

Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.

Y Coleg Merthyr Tudful

Cynulliad Dysgwyr - Trwy'r Cynulliad Dysgwyr gallwch roi adborth a'n helpu i ddarparu'r profiad dysgu a chymorth gorau i bawb.

PDC – Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn cadarnhau eich statws i'ch darparwr benthyciad i fyfyrwyr (os ydych wedi gwneud cais). Gwiriwch gynnydd eich cadarnhad am gyllid myfyrwyrar-lein
  • Ni sy’n achredu eich cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
  • Amgylchiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
  • Torri ar draws Astudiaethau
  • Cwynion ac apeliadau academaidd
  • Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
  • Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
  • Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau, gallwch raddio yn un o'n seremonïau graddio

Y Coleg Merthyr Tudful - Ein Cyfrifoldebau

Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:

  • Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
  • Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
  • Bydd ein Gwasanaethau Dysgwyr yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
  • Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
  • Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG Coleg Merthyr Tudful, mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr trwy Office365.com.

Cysylltiadau

PDC: E-bostiwch [email protected] 

Coleg Partner: Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau'r coleg? Anfonwch neges atom neu ffoniwch  01685 726000