Myfyrwyr PDC yng Ngholeg Penybont
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/09-logos/logo-bridgend-college.jpg)
Dylai'r dudalen hon ddarparu'r holl ddolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer Prifysgol De Cymru a'ch Coleg Partner. Mae hefyd yn rhestru cyfrifoldebau a chysylltiadau'r ddau sefydliad.
Dyddiadau Tymor
Nid yw Dyddiadau Tymor Coleg Penybont yr un fath â rhai PDC. Os ydych yn ansicr ynghylch pryd mae'ch tymor yn cychwyn, cysylltwch â'r coleg trwy [email protected] i gael gwybodaeth am y dyddiad cychwyn.
PDC
UniLearn (Blackboard)
Amgylchedd Dysgu Rhithwir PDC.
Llyfrgell PDC
Cyrchwch Adnoddau Llyfrgell PDC.
Cyfeirnodi
Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddefnyddio Arddull Cyfeirnodi Harvard. Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r Canllawiau Cyfeirnodi ar gyfer eich cwrs.
Ymrestru gyda PDC
Rhaid i bob myfyriwr PDC ymrestru (cofrestru) gyda Phrifysgol De Cymru. Gallwch wneud hyn ar-lein.
Canlyniadau Diwedd Blwyddyn
Bydd angen eich rhif adnabod myfyriwr PDC a'ch cyfrinair PDC arnoch i gael mynediad i'ch canlyniadau.
Amgylchiadau Esgusodol
Os yw rhywbeth annisgwyl yn effeithio ar eich gallu i lwyddo mewn asesiad, gallwch wneud cais am amgylchiadau esgusodol.
Apeliadau Academaidd
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi gwneud gwall gyda’r marc a gofnodwyd ar gyfer eich gwaith, neu os bu afreoleidd-dra yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu’r dull o drin arholiadau, gallwch wneud Apêl Academaidd.
Gwaith Achos Myfyrwyr
Canllaw cryno i reoliadau a gweithdrefnau’r brifysgol ar gyfer gwaith achos myfyrwyr.
Coleg Penybont
Porth Myfyrwyr
Porth myfyrwyr Coleg Penybont.
Addysg Uwch
Gwybodaeth i fyfyrwyr Addysg Uwch Coleg Penybont.
Canolfan Llwyddiant
Gall ein Hyfforddwyr Sgiliau eich helpu i roi hwb i'ch Sgiliau Astudio, megis llythrennedd, rhifedd, Cymraeg ac ymarferiadau adolygu.
PDC
Ardaloedd Cynghori PDC
Gall Ardaloedd Cynghori PDC helpu gydag ymholiadau am apeliadau, amgylchiadau esgusodol a materion academaidd eraill.
Gyrfaoedd PDC
Gallwch gyrchu amrywiaeth lawn o wasanaethau a chefnogaeth gyrfaoedd.
Adnoddau Sgiliau Astudio
Cyrchwch ganllawiau ac adnoddau Sgiliau Astudio PDC. I gael cymorth sgiliau astudio gyda thiwtor, cysylltwch â'ch coleg.
Rheoliadau a Pholisïau PDC
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau PDC yn nodi'r rheolau a'r disgwyliadau y mae disgwyl i'r Brifysgol a'i myfyrwyr gadw atynt.
Coleg Penybont
Tîm Addysg Uwch
Y Tîm AU yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwneud cais, derbyniadau, cofrestru a chyngor cyllid.
Llesiant
Cysylltwch â'r tîm Llesiant i gael cyngor a chymorth personol.
Cymorth Arbenigol
Bydd y tîm cymorth arbenigol yn gallu cynnig help a chyngor os oes gennych anabledd neu ofyniad ychwanegol.
PDC
Ailosod eich cyfrinair PDC
Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair, neu os yw wedi dod i ben, gallwch ei ailosod ar-lein.
Eich Cyfrif E-bost PDC
Fel myfyriwr PDC, mae gennych gyfrif Office 365 sy'n cynnwys Outlook Mail, Calendr Outlook, storfa ar-lein OneDrive, rhaglenni Office a mwy.
Coleg Penybont
E-bost
Fel myfyriwr yng Ngholeg Penybont, bydd gennych gyfrif e-bost Coleg Penybont i gael mynediad at holl raglenni Google Suite gan gynnwys Gmail, Google Drive a Classrooms.
I fewngofnodi, defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost fel yr enw defnyddiwr (h.y. [email protected]).
Cofrestru ar gyfer Hunanwasanaeth Cyfrinair Ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer Hunanwasanaeth Cyfrinair fel y gallwch newid eich cyfrinair ar-lein os byddwch chi'n ei anghofio yn y dyfodol.
Ailosod eich Cyfrinair
I newid neu ailosod eich cyfrinair anghofiedig, gallwch wneud hyn ar-lein.
PDC
Graddio PDC
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Seremonïau Graddio.
Coleg Penybont
Graddio
Os cwblhewch eich astudiaethau yn llwyddiannus yng Ngholeg Penybont, fe'ch gwahoddir i fynychu seremonïau graddio'r Coleg.
PDC
Undeb Myfyrwyr PDC
Mae Undeb y Myfyrwyr yno i gynrychioli eich buddiannau.
Cynrychiolwyr Cwrs
Canllawiau Undeb Myfyrwyr PDC ar gyfer Cynrychiolwyr Cwrs.
Coleg Penybont
Cynrychiolwyr a Llysgenhadon Myfyrwyr
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i gynrychioli'ch cyd-fyfyrwyr a Choleg Penybont?
PDC – Ein Cyfrifoldebau
Fel myfyriwr ar un o'n cyrsiau, dyma beth fyddwn ni'n ei wneud i chi:
- Ni sy’n achredu eich cwrs, felly mae ein polisïau academaidd yn berthnasol. Mae hynny'n cynnwys:
- Amgylchiadau Esgusodol a pholisi Addasrwydd i Sefyll
- Torri ar draws Astudiaethau
- Cwynion ac apeliadau academaidd
- Mae PDC yn delio â sicrhau ansawdd y cwrs, ac yn delio ag ail farcio, arholwyr allanol a byrddau dyfarnu (sy'n pennu graddau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd).
- Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
- Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG PDC. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a storfa cwmwl trwy Microsoft 365.
- Rheolir eich canlyniadau diwedd blwyddyn gennym ni.
Coleg Penybont – Ein Cyfrifoldebau
Fel myfyriwr yn ein coleg, dyma’r hyn y bydd Coleg Penybont yn ei wneud i chi:
- Bydd ein tiwtoriaid yn dysgu'r dosbarthiadau ac yn marcio'ch gwaith.
- Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar gyfer eich modiwlau ar-lein.
- Bydd ein tiwtoriaid yn dweud wrthych sut i gyflwyno gwaith.
- Bydd ein tîm Cymorth i Ddysgwyr yn eich cynghori am unrhyw fater anacademaidd.
- Gallwch gyrchu adnoddau ein llyfrgell.
- Mae gan bob myfyriwr cofrestredig gyfrif TG Coleg Penybont,
- mae hyn yn cynnwys cyfeiriad e-bost myfyriwr a ddarperir gan Google G-Suite.
Cysylltiadau
PDC: E-bostiwch [email protected].
Coleg Partner: Oes gennych chi unrhyw gwestiwn am wasanaethau Coleg Penybont? Cysylltwch â Thîm Addysg Uwch Coleg Penybont.