Ynglŷn â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr
Ni yw Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru – gallwn eich cynorthwyo gydag ochr ariannol eich astudiaethau.
Mae ein Cynghorwyr Arian a Chymorth ar gael drwy gydol y flwyddyn - Cysylltwch â ni.
Cewch wybodaeth a chyngor ar:
- eich cymhwysedd i gael cymorth ariannol myfyrwyr,
- benthyciadau myfyrwyr, grantiau, lwfansau ychwanegol, bwrsariaethau'r GIG a dyfarniadau dewisol,
- ceisiadau i Gronfa Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol a chynlluniau cysylltiedig,
- cyllidebu, ffynonellau cymorth ariannol ychwanegol a chyngor sylfaenol ar fudd-daliadau,
- goblygiadau ariannol newid neu adael cwrs neu ailadrodd blynyddoedd astudio,
- taliadau a phrosesai gweinyddu rhan fwyaf o ysgoloriaethau'r Brifysgol.
Sylwch nad oes gennym yr hawl cyfreithiol i gynghori ar fanteision ac anfanteision cynhyrchion ariannol a gynigir gan fenthycwyr preifat unigol.