Proses Ymgeisio i'r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr
Mae'r broses ymgeisio yn agor ym mis Hydref bob blwyddyn
Camau cais
1.Cyflwyno'ch cais
Ar ôl derbyn eich cais, gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith / 4 wythnos i gael ei brosesu.
2.Adolygu eich gwybodaeth a'ch tystiolaeth
Unwaith y bydd eich cais wedi'i gyflwyno, gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith pellach i gael ei asesu. Os nad yw’r dogfennau priodol wedi’i chyflwyno neu os oes angen eglurhad pellach ar eich sefyllfa ariannol bresennol, gofynnir i chi naill ai ddatrys hyn neu drefnu apwyntiad gyda Chynghorydd Arian a Chymorth.
3.Asesiad wedi'i gwblhau
Unwaith y bydd cais wedi'i gwblhau a’r holl wybodaeth berthnasol ar gael, bydd e-bost yn cael ei anfon i'ch cyfrif e-bost myfyriwr yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad
Beth sy'n digwydd nesaf?
Rhoddir arian i chi
Anfonir e-bost dyfarnu i'ch cyfrif e-bost myfyriwr gyda gwybodaeth am sut i hawlio'r dyfarniad.
Mae eich cais yn cael ei wrthod
Bydd e-bost gwrthod yn cael ei anfon i'ch cyfrif e-bost myfyriwr. Os ydych yn anhapus â phenderfyniad y Panel, gallwch naill ai apelio yn erbyn y penderfyniad, neu os yw eich amgylchiadau ariannol wedi newid ers cyflwyno’ch ffurflen gais, gallwch ofyn i’r Panel adolygu eich cais.
Sut i adolygu neu apelio