Poster bydwraig dan hyfforddiant ar symudiadau’r ffetws yn mynd yn feirol

5 Mai, 2017

Myscha Dene fetal movements pregnancy poster

Bydd poster a ddyluniwyd gan fydwraig dan hyfforddiant ym Mhrifysgol De Cymru yn cael ei ddefnyddio gan fyrddau iechyd ledled y DU a thu hwnt.

Cynhyrchodd Myscha-Dene Bates y poster er mwyn chwalu'r chwedlau a glywir yn gyffredin am symudiadau babanod yn ystod beichiogrwydd, i helpu i annog menywod beichiog i fonitro symudiadau eu baban yn y groth, ac i gysylltu â'u bydwraig neu uned famolaeth leol os byddant yn sylwi ar unrhyw newidiadau.

Diwrnod Rhyngwladol y Bydwragedd

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig (dydd Gwener 5 Mai), dywedodd y ferch 28 oed bod ei phrofiad personol ei hun o feichiogrwydd a genedigaeth wedi ei hysbrydoli i ddod yn fydwraig.

Ychwanegodd: “Pan osodwyd prosiect i ddylunio poster iechyd cyhoeddus fel rhan o'n gwaith cwrs blwyddyn olaf, roeddwn i'n gwybod yn union beth roeddwn i eisiau ei wneud.

“Mae llenyddiaeth ar gael ar bwnc symudiad y ffetws, ond mae'n gallu bod yn eitha’ geiriol a hirfaith, felly mae'r rhain yn aml yn cael eu rhoi naill ochr, byth i'w darllen eto - roeddwn i eisiau i hyn fod yn wahanol.

“Roedd gen i weledigaeth glir o sut roeddwn i eisiau i'm poster edrych; fel pe bai'r negeseuon yn dod o'r babi at y fam.

“Ond yn bwysicach fyth, roeddwn i eisiau iddo roi gwybodaeth glir am yr hyn sydd, ac nad yw'n arferol o ran symudiadau’r ffetws. Mae llawer o fenywod yn parhau i weithredu ar wybodaeth o ffynonellau nad ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth, neu hen chwedlau fel 'mae babanod yn symud llai yn y tri mis olaf', sydd ddim yn gywir. Gall hyn eu hatal rhag ceisio cymorth yn ddigon cyflym, neu hyd yn oed o gwbl.

“Mae llawer o fenywod hefyd yn parhau i ddefnyddio doppler y ffetws gartref fel dull o dawelu meddwl pan fyddant yn teimlo bod symudiadau babanod wedi newid, ond gall y rhain roi gobaith ffug pan fyddant yn clywed curiad calon, ac nid ydynt yn cael eu hargymell gan fydwragedd.

Diddordeb byd-eang

Yn ddiweddar, rhannodd Myscha ei phoster ar gyfryngau cymdeithasol ac fe’i synnwyd gan yr ymateb enfawr y mae wedi'i gael gan fydwragedd, clinigwyr a menywod beichiog ledled y DU a hyd yn oed cyn belled ag Awstralia.

Yn ogystal â chael ei fabwysiadu gan fydwragedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, bydd y poster yn cael ei ddefnyddio gan un o ymddiriedolaethau GIG mwyaf y DU yn Llundain ac eraill ledled y wlad.

Mae hefyd wedi cael cefnogaeth ymgynghorydd meddygaeth y ffetws, Dr Bryan Beattie, o Innermost Learning, elusen sy'n ymroddedig i gefnogi myfyrwyr a bydwragedd i wella addysg ym maes iechyd menywod a gofal beichiogrwydd.

Dywedodd Dr Bryan Beattie: “Rwy'n falch iawn o gefnogi Myscha gyda'r prosiect hwn, sydd wir yn helpu i atgyfnerthu pwysigrwydd adrodd am symudiadau ffetws newidiol yn ystod beichiogrwydd fel modd o adnabod babanod sydd mewn perygl o farw-enedigaeth, yn y gobaith y bydd llawer yn cael eu hachub.”

Mae'r poster wedi cael adborth a chefnogaeth gadarnhaol drwy Twitter gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n arwain Ymgyrch Beichiogrwydd Mwy Diogel, a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.

Ychwanegodd Myscha: “Rwyf wedi rhoi fy nghalon a'm henaid yn y poster. Rwyf wrth fy modd yn bod yn greadigol ac yn chwilio am ffyrdd y gallaf wneud newidiadau cadarnhaol er budd menywod a theuluoedd, ond ni wnes i erioed ddisgwyl iddo fynd i unrhyw le y tu hwnt i diwtor fy nghwrs, ac eithrio mewn ffolder ar fy mwrdd gwaith.

“Mae'r ffaith ei fod wedi cael ei ddefnyddio a'i rannu'n fyd-eang gan gymaint o bobl wedi bod yn anhygoel. Rwy'n teimlo'n ffodus o gael y cyfle i wneud gwahaniaeth i un agwedd ar ofal bydwreigiaeth yr wyf yn arbennig o angerddol amdano. Mae'r gefnogaeth rwyf wedi'i chael wedi bod yn anhygoel ac rwy'n teimlo'n hynod falch.”

“Rwy'n teimlo mai ein cyfrifoldeb ni fel bydwragedd yw gwneud pob ymdrech i chwalu chwedlau fel hyn, a dyna pam y gwnes i greu Make My Movements Matter, i annog menywod a bydwragedd i weithio gyda'i gilydd i bontio'r bwlch hwnnw.”