Cyn fyfyrwraig o PDC yn dylunio darn arian coffa cywrain i’r Bathdy Brenhinol
4 Awst, 2021
Mae Ffion Gwillim, artist a raddiodd o PDC, wedi dylunio coron goffa werth £5 i ddathlu 150 mlynedd ers cyhoeddi Through the Looking-Glass, y dilyniant i Alice’s Adventures in Wonderland.
Ymunodd Ffion, sy’n 24 oed ac yn dod o Abercynon, â thîm cysyniadau modelu’r Bathdy Brenhinol yn 2020, ar ôl cwblhau ei gradd mewn Cyfathrebu Graffig yn PDC, a hi yw dylunydd staff ieuengaf y cwmni.
Mae Ffion wedi anfarwoli Alice a'i ffrindiau yn Wonderland am y tro cyntaf ar un o ddarnau arian swyddogol y DU, gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddarluniau Syr John Tenniel o'r llyfr, a gyhoeddwyd gyntaf 150 o flynyddoedd yn ôl. Roedd ei darn arian Alice's Adventures in Wonderland swyddogol, gydag Alice a'r Cheshire Cat arno, ac a lansiwyd y mis diwethaf i gyd-fynd ag arddangosfa o’r darluniau gwreiddiol yn y Victoria & Albert Museum, hefyd yn rhan o’r un gyfres.
Ar gael mewn aur, arian ac fel fersiwn ddilychwin, yn ogystal ag argraffiad lliw arbennig, defnyddiwyd technegau bathu traddodiadol a thechnoleg ddylunio arloesol i bortreadu cyfarfod Alice â Tweedledum a Tweedledee, ac mae 'Through the Looking-Glass'. wedi ei arysgrifio ar y darn. Yn seiliedig ar ddarluniadau cywrain Tenniel, mae’r darn yn un o’r rhai mwyaf manwl a gynhyrchwyd gan y Gwneuthurwyr, sydd wedi bod yn bathu ers 1,100 o flynyddoedd.
Gwyliwch sut y daeth dyluniadau Ffion yn fyw ochr yn ochr â gwaith cerflunydd y Bathdy Brenhinol, Emma Noble:
Fel gyda phob darn arian a gynhyrchir gan y Bathdy Brenhinol, cyflwynwyd dyluniadau Ffion i gorff annibynnol, Pwyllgor Ymgynghorol y Bathdy Brenhinol, cyn cael eu rhannu gyda'r Canghellor a’r Frenhines. Yna dewiswyd ei dyluniadau ar gyfer y darn arian coffa.
Dywedodd Ffion: "Mae dylunio'r darnau coffa, Alice’s Adventures in Wonderland a Through the Looking-Glass wedi bod yn fraint enfawr. I ddylunydd yn y Bathdy Brenhinol, dyma'r anrhydedd pennaf, ac roedd y prosiect hwn yn arbennig o gyffrous i fi gan fy mod i wedi fy nwyn i fyny gyda'r straeon hyn – maen nhw'n dod ag atgofion plentyndod gwych i fi a chynifer o bobl eraill, ac rwyf wedi bod wrth fy modd drwy gydol y broses."
Yn ogystal ag ennill sêl bendith y Frenhines, mae Ffion wedi creu argraff hynod ffafriol ar Arweinydd Dylunio Cynnyrch y Bathdy Brenhinol, Lee Jones, ers iddi ymuno â'r tîm.
Dywedodd Lee: "Mae creu rhywbeth gwreiddiol o ddarluniadau sydd eisoes yn adnabyddus yn dipyn o gamp. Creodd Ffion waith gwych i ni a logodeip hynod ddyfeisgar sy'n rhoi bywyd newydd i Alice a’i Wonderland."
Gall casglwyr brynu'r ail ddarn arian, yn dathlu Through the Looking Glass, ar goron goffa werth £5 o’r Bathdy Brenhinol.
Darllenwch fwy am y gyfres darnau arian a'r cydweithio gydag Amgueddfa y V&A ar Wefan y Bathdy Brenhinol.