Brand cerddoriaeth amgen yn ennill Gwobr Graddedigion 2022 NatWest

12 Awst, 2022

https://uswfoxtail.blob.core.windows.net/foxtail-prod-uploads/original_images/Stephen_Goode_music_graduate.jpg

Mae myfyriwr graddedig mewn Busnes Cerddoriaeth o Brifysgol De Cymru (PDC) wedi ennill Gwobr Graddedigion #Powerup NatWest eleni, diolch i’w weledigaeth ar gyfer hyrwyddo artistiaid yn y genre cerddoriaeth amgen.

Cafodd Stephen Goode, a raddiodd ym mis Gorffennaf gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn BA (Anrh) Busnes Cerddoriaeth, ei enwebu am y wobr gan ddarlithwyr yn PDC ar ôl cyflwyno cynllun busnes trawiadol ar gyfer y brand cerddoriaeth, fel rhan o’i brosiect blwyddyn olaf. Mae NatWest yn cefnogi myfyrwyr blwyddyn olaf Busnes Cerddoriaeth i adeiladu ar astudiaethau entrepreneuriaeth, efelychu menter byd go iawn a lansio busnesau cerddoriaeth newydd.

Bob blwyddyn, mae myfyrwyr yn ymchwilio, cynllunio, datblygu, brandio, marchnata a rheoli prosiect sylweddol sydd â photensial graddfa a llwyddo ar ôl graddio. Creodd Stephen, sy'n 27 oed ac yn wreiddiol o Henffordd ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, No Poetry - brand cerddoriaeth sy'n ceisio hyrwyddo artistiaid ar draws y sbectrwm genre cerddoriaeth amgen trwy fformat artist-ganolog.

Prif amcan No Poetry Music yw bod yn ganolbwynt rhwydweithio diogel a deniadol i bobl sy'n uniaethu ag isddiwylliannau amgen ac sydd â diddordebau cerddorol cydgordiol.

Mae’r busnes yn gwneud hyn drwy hwyluso digwyddiadau cerddoriaeth amgen ledled y wlad, gan weithredu’n bennaf yng Nghaerdydd.

Fel rhan o'r wobr, bydd Stephen yn derbyn dwy sesiwn hyfforddi gyda Rheolwr Cyflymu Entrepreneur NatWest, a gynlluniwyd i'w gefnogi gyda sgiliau busnes.

Dywedodd Stephen: “Rwy’n ddigon ffodus i fod wedi cael cefnogaeth ddiwyro gan deulu a ffrindiau, byth ers i No Poetry Music ddechrau fel prosiect hobi, ond i gael fy nghynllun busnes wedi’i gydnabod yn academaidd gan PDC ac yn annibynnol gan NatWest fel menter fusnes hyfyw ac addawol, rwyf bellach yn teimlo cyfoeth newydd o hyder, cyffro a phenderfyniad ar gyfer y dyfodol.

“Mae gan Gaerdydd a De Cymru sîn gerddoriaeth llawr gwlad hynod fywiog a chyffrous, ac yn naturiol mae’n amgylchedd gwych i ddatblygu prosiect sy’n canolbwyntio ar y diwydiant cerddoriaeth. Roedd y cwrs Busnes Cerddoriaeth yn PDC yn amhrisiadwy o ran fy mharatoi ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth; roedd yr ystod o fodiwlau yn eang iawn ac yn cwmpasu’r holl bynciau roeddwn i eisiau datblygu arnynt, gan gynnwys y diwydiant cerddoriaeth fyw, cyhoeddi cerddoriaeth, datblygu artistiaid a chyllid a busnes cyffredinol.”

Dywedodd Gemma Casey, Rheolwr Ecosystem Cymru NatWest: “Mae Gwobr Graddedigion #Powerup NatWest yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ar y cwrs BA Busnes Cerddoriaeth ddysgu a datblygu sgiliau menter. Mae’r cyflwyniad hwn i fyd entrepreneuriaeth, ac i sgiliau, gan gynnwys cyflwyno syniad, yn amhrisiadwy i fyfyrwyr, p’un a ydynt yn mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain neu’n mynd i gyflogaeth. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy a all roi mantais wirioneddol i fyfyrwyr, beth bynnag fo’u llwybr yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Lloyd George, Arweinydd Cwrs ar gyfer BA (Anrh) Busnes Cerddoriaeth yn PDC: “Mae’r radd Busnes Cerddoriaeth wedi’i chynllunio i gynnig amrywiaeth o lwybrau gyrfa a chyflogadwyedd yn y diwydiannau cerddoriaeth fyd-eang gyfoes. Rydym yn ymfalchïo yn ein cysylltiadau diwydiant, sy’n rhoi profiad uniongyrchol i’n myfyrwyr o weithio gyda digwyddiadau cerddoriaeth fyw, cyhoeddi, datblygu artistiaid a labeli, er enghraifft. Rydym hefyd yn edrych i’r dyfodol ar gyfer meddwl dylunio a sut y gall y sector byw ailadeiladu ei hun yn well yn yr oes ôl-bandemig.”