Penodi Deoniaid newydd i arwain cyfadrannau allweddol yn PDC
23 Gorffennaf, 2025
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn falch o groesawu dau arweinydd nodedig a fydd yn arwain ei chyfadrannau allweddol ac yn helpu i lunio cyfeiriad strategol y brifysgol. Mae Dr Rob Orford a'r Athro Jill Stewart yn dod â chyfoeth o brofiad mewn gwyddoniaeth, addysg ac arloesedd, gan atgyfnerthu ymrwymiad PDC i effaith yn y byd go iawn a rhagoriaeth academaidd.
Mae Dr Rob Orford wedi'i benodi'n Ddeon Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg. Gyda gyrfa nodedig sy'n rhychwantu iechyd, gwyddoniaeth a pholisi cyhoeddus, mae Dr Orford yn dod â phrofiad arwain helaeth o rolau gan gynnwys Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd yn Llywodraeth Cymru, Prif Swyddog Gweithredol Moondance Cancer Initiative, a Chynghorydd Mynd i'r Afael â Chanser Arweiniol yn yr Hwb Gwyddorau Bywyd. Chwaraeodd ran ganolog yn ymateb Cymru i'r pandemig a dyfarnwyd OBE iddo yn 2024 am wasanaethau i bolisi a gwyddorau iechyd. Bydd Dr Orford yn ymuno â PDC ddechrau mis Awst.
Dywedodd Dr Rob Orford: "Mae'n anrhydedd i mi ymuno â Phrifysgol De Cymru fel Deon Cyfadran y Gwyddorau Bywyd ac Addysg. Trwy gydol fy ngyrfa, rydw i wedi gweithio ar groestorfan gwyddoniaeth, polisi a gwasanaeth cyhoeddus, ac rwy'n gyffrous i ddod â'r profiad hwnnw i brifysgol sy'n rhannu fy ymrwymiad i effaith gymdeithasol ac arloesi. Mae gwyddorau bywyd ac addysg yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a phartneriaid i yrru newid ystyrlon a llunio dyfodol y sector."
Bydd yr Athro Jill Stewart yn ymgymryd â rôl Deon y Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth ym mis Medi. Mae hi'n ymuno â PDC o Brifysgol Cumbria, lle bu'n Gyfarwyddwr Sefydlol y Sefydliad Peirianneg, Cyfrifiadureg a Gweithgynhyrchu Uwch. Mae'r Athro Stewart yn dod â hanes cryf ym meysydd arwain academaidd, ymchwil ac ymgysylltu â chyflogwyr, gydag arbenigedd mewn modelu systemau, cymwysiadau peirianneg o raglenni deallusrwydd artiffisial, ac arloesi digidol.
Dywedodd yr Athro Jill Stewart: "Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â PDC ar adeg mor gyffrous. Mae'r Gyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth ar flaen y gad o ran arloesedd technolegol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr i wthio ffiniau, meithrin creadigrwydd, ac adeiladu partneriaethau cryf sydd o fudd i ddiwydiant a chymdeithas. Gyda buddsoddiad sylweddol y brifysgol mewn cyfleuster STEM newydd o'r radd flaenaf yn agor yn 2026, mae gennym gyfle unigryw i greu amgylchedd o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil, addysgu a chydweithio."
Wrth groesawu'r penodiadau, dywedodd yr Athro James Gravelle, Dirprwy Is-Ganghellor:
"Mae Rob a Jill yn dod â phrofiad a gweledigaeth rhagorol i'w rolau, ac rydym yn falch o'u croesawu i PDC. Bydd eu harweinyddiaeth yn allweddol wrth i ni gryfhau ein cymuned academaidd a gyrru ein cenhadaeth ymlaen i gyflawni effaith yn y byd go iawn trwy ein haddysgu a'n hymchwil. Daw'r penodiadau hyn ar adeg allweddol i'r brifysgol ac i Gymru, wrth i ni geisio cynyddu ein cyfraniad at ddatblygiad cymdeithasol, economaidd ac addysgol y rhanbarth."