Ymchwil yn dangos gwerth cymorth iechyd meddwl ataliol mewn ysgolion
29 Gorffennaf, 2026
Mae rhaglen llesiant i ysgolion sy’n cael ei chyflwyno i bobl ifanc ledled De Cymru wedi bod yn gysylltiedig â gwelliannau sylweddol mewn lles meddyliol, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol De Cymru (PDC).
Gwnaeth yr astudiaeth werthuso effaith rhaglen Meddwl am dy Feddwl, a gafodd ei datblygu a’i chyflwyno gan yr elusen iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, Platfform. Mae'r rhaglen yn cyflwyno cyfres chwe wythnos o sesiynau grŵp i bobl ifanc, rhwng 13 ac 16 oed, gan eu helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth emosiynol, strategaethau ymdopi, a gwytnwch, a hynny mewn amgylchedd cefnogol.
Cafodd data llesiant 494 o ddisgyblion mewn 13 o ysgolion ei ddadansoddi, a chynhaliwyd cyfweliadau manwl gyda chyfranogwyr i ddeall eu profiad nhw wrth ddilyn y rhaglen.
Dangosodd y canfyddiadau welliant sylweddol mewn llesiant ar ôl cymryd rhan. Dywedodd pobl ifanc hefyd eu bod yn teimlo'n fwy abl i ddeall a rheoli eu hemosiynau, ymdopi â straen a phryder, ac adeiladu perthnasoedd iachach.
Arweinydd yr ymchwil oedd Daisy Carey, sy’n fyfyrwraig Seicoleg ôl-raddedig. Dywedodd: "Mae ein canfyddiadau'n awgrymu y gall rhaglenni llesiant i ysgolion wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl ifanc. Dywedodd cyfranogwyr eu bod yn teimlo'n fwy hyderus wrth reoli eu hemosiynau, yn datblygu strategaethau ymdopi ymarferol, ac yn gwerthfawrogi cael lle diogel i rannu profiadau gydag eraill."
"Yr hyn sy'n arbennig o nodedig yw ei bod yn amlwg bod cysylltiad yn hynod bwysig. Dywedodd llawer o bobl ifanc eu bod yn teimlo'n llai ‘ar eu pennau eu hunain’ ar ôl cwrdd â chyfoedion oedd yn wynebu heriau tebyg. Dywedon nhw hefyd eu bod yn gwerthfawrogi sgiliau dysgu y gallen nhw barhau i'w defnyddio ar ôl y rhaglen."
Dangosodd canfyddiadau’r cyfweliad fod llawer o gyfranogwyr yn teimlo'n ansicr ynghylch ymuno â'r rhaglen i ddechrau, ond bod ymdeimlad o ymddiriedaeth a pherthyn wedi datblygu’n gyflym. Soniodd pobl ifanc am werth hwyluswyr cefnogol a chyfleoedd i ymgysylltu ag eraill oedd yn deall eu profiadau.
Cafodd y rhaglen eu disgrifio gan un o’r bobl ifanc fel rhywbeth a’i helpodd i sylweddoli bod 'yna bobl eraill oedd yn cael anawsterau hefyd', a dywedodd un arall fod cymryd rhan wedi cynyddu ei hyder i fynd ati i wneud hyfforddiant fel mentor i gyfoedion.
Comisiynwyd yr ymchwil gan Platfform fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i werthuso a gwella gwasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru.
Dywedodd Dr Nyle Davies, Uwch Gynorthwyydd Ymchwil a chyd-awdur yr astudiaeth: "Wrth i'r galw am gymorth iechyd meddwl barhau i dyfu, mae dulliau ataliol sy'n helpu pobl ifanc i feithrin gwytnwch emosiynol yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae rhaglenni fel Meddwl am dy Feddwl yn darparu sgiliau ymarferol a chefnogaeth cyn i anawsterau ddatblygu’n argyfyngus."
"Mae'r prosiect hwn hefyd yn enghraifft wych o sut y gall prifysgolion weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol i fynd i'r afael â heriau yn y byd go iawn. Drwy gyfuno arbenigedd academaidd â phrofiad sefydliadau sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc, gallwn gynhyrchu tystiolaeth sy'n helpu i gryfhau gwasanaethau a gwella deilliannau yn ein cymunedau."
Dywedodd Sarah Hamilton, Pennaeth Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Platfform: "Gan fod rhaglen Meddwl am dy Feddwl wedi'i chyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc, mae'n wych gweld cydnabyddiaeth o hyn yn yr adroddiad. Rydyn ni’n falch iawn o'r rhaglen a byddwn yn parhau i'w chyflwyno, mewn ysgolion a cholegau, i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc."