Graddedig mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth yn ennill Gwobr Romesh Dodangoda am brosiect trochi sy'n ymwneud â 'doomscrolling'

20 Hydref, 2026

Romesh Dodangoda gyda Tom Greenaway-Parry

Mae Tom Greenaway-Parry, sydd wedi graddio mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth, wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth i Raddedigion Romesh Dodangoda eleni, am brofiad cerddorol trochi sy’n archwilio’r elwir yn ‘doomscrolling’ – drwy ddefnyddio sain, deunydd archif a thechnoleg hen ffasiwn.

Cyflwynwyd y wobr gan y cynhyrchydd cerddoriaeth Romesh Dodangoda – sydd wedi cael ei enwebu am wobr Grammy – a gydnabodd ddull creadigol Tom o gynhyrchu amlgyfrwng, yn ogystal â'i allu i gyfuno technegau sydd wedi hen ddiflannu â thechnoleg fodern.

Graddiodd Tom, sy'n 26 oed ac yn dod o Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, o Brifysgol De Cymru (PDC) gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth. Cyn hynny, astudiodd Dechnoleg Cerddoriaeth Boblogaidd yng Ngholeg Gwent.

Cafodd ei brosiect ei ysbrydoli gan The Disintegration Loops – cyfres o recordiadau gan y cyfansoddwr Americanaidd William Basinski, a grëwyd o dapiau o'i gerddoriaeth gynharach oedd yn dirywio.

"Roedd y gerddoriaeth yn swnio'n eithaf 'ysbrydol' (haunting), ac roeddwn i eisiau creu rhywbeth tebyg fel gosodiad celf," meddai Tom. "Cefais fy ysbrydoli hefyd gan ysgrifau Mark Fisher, a'i archwiliad o gysyniadau fel 'hauntology' a 'dyfodolau coll'.

"Wrth i mi ddatblygu'r prosiect, dechreuais ymddiddori yn y ddamcaniaeth y tu ôl i'r math hwn o gynhyrchu cerddoriaeth, a sut y gellid ei ddefnyddio i archwilio'r ffordd rydym yn defnyddio cyfryngau modern. Daeth o hyd i hen deledu CRT gyda sgrin analog glasurol, a defnyddiais y sain ohono fel cefndir i'r cysyniad o 'doomscrolling'.

"Datblygodd y prosiect yn golage amlgyfrwng o elfennau gwahanol. Casglais glipiau o archif y BBC a'u rhoi mewn rhaglen sy'n eu dewis a'u chwarae ar hap, gan greu cyfuniadau o sain a delwedd sy'n newid yn gyson.

"Trwy gyfuno technoleg hen a newydd, mae'r prosiect yn archwilio'r effaith y mae cyfryngau cymdeithasol yn ei chael ar ein dealltwriaeth o hanes, ein gor-ddibyniaeth ar hiraeth (nostalgia), a'n hanallu i ddychmygu syniadau newydd am y dyfodol.

"Gall ein 'ffrydiau' (feeds) ddangos fideo doniol o gath un funud, a delweddau o wlad sydd wedi'i rhwygo gan ryfel y funud nesaf. Gall hyn fod yn hynod anesmwythol, ond rydym wedi dod i arfer ag ef dros amser.

"Roeddwn i eisiau tynnu sylw at y profiad hwnnw, ac annog pobl i sylweddoli pa mor rhyfedd ydyw mewn gwirionedd. Pan fyddwn ni’n cymryd mewn cynnwys yn y modd hwn yn gyson, gall fod yn hawdd datgysylltu, colli’r gallu i feddwl yn feirniadol, a dod yn ddideimlad i’r hyn rydym yn ei weld.”

Dywedodd Romesh, cyn-fyfyriwr arall o PDC sydd wedi gweithio gydag artistiaid gan gynnwys Motörhead a Bring Me The Horizon: “Mae Tom wedi meddwl yn wirioneddol wahanol ac wedi creu rhywbeth unigryw iawn. Mae’n brosiect sy’n ysgogi meddwl yn wych, ac sy’n defnyddio technoleg mewn ffordd annisgwyl.

“Mae wedi creu rhywbeth sy’n dangos pa mor werthfawr yw cynhyrchu cerddoriaeth, ac sy’n adlewyrchu poblogrwydd cynyddol profiadau trochi mewn lleoliadau cerddoriaeth fyw.”

Ychwanegodd Rob Smith, Athro Cysylltiol Cerddoriaeth a Chymunedau yn PDC: “Mae gwaith Tom yn brosiect sydd wedi’i feddwl allan yn ofalus iawn ac wedi’i gyflawni’n arbenigol, gyda’r potensial i ddatblygu i lawer o gyfeiriadau gwahanol.

“Mae’r wobr hon yn cydnabod gwreiddioldeb ei syniad, ac yn tynnu sylw at y posibiliadau cyffrous ar gyfer cynhyrchu cerddoriaeth amlgyfryngol yn y dyfodol.”