Mis Hanes Pobl Dduon | Athro o PDC wedi'i dewis ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd Silicon Valley
6 Hydref, 2026
Mae ffilm ddogfen gan yr Athro Florence Ayisi, sy'n archwilio bywydau bocswyr ifanc yng Nghasnewydd, ymhlith y ffilmiau a ddewiswyd yn swyddogol ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd Silicon Valley 2026, sy'n cael ei chynnal yng Nghaliffornia y mis hwn.
Mae A Beacon of Resilience: St Joseph’s Boxing Club yn canolbwyntio ar gymuned Pill yng Nghasnewydd, ac yn archwilio rôl bwysig y clwb wrth gefnogi pobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol ac o ardaloedd sydd wedi'u tangynrychioli'n gymdeithasol ac yn economaidd, yn ystod pandemig Covid-19.
I'r nifer fawr o bobl ifanc sy'n mynd drwy ei ddrysau, mae'r clwb yn fwy na lle ar gyfer gweithgareddau chwaraeon; mae'n darparu lle diogel ar gyfer teimlo'n rhan o gymuned, lles, mentora, disgyblaeth, a magu hyder.
Cafodd y ffilm ei chreu fel rhan o brosiect ymchwil a ariennir gan UKRI o'r enw Co-POWeR (Consortium on Practices of Wellbeing and Resilience), a oedd yn archwilio sut y gwnaeth cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol ail-ddiffinio lles a gwydnwch yn ystod ac ar ôl cyfnod clo Covid-19.
Wedi'i greu a'i gynhyrchu gan yr Athro Ayisi ochr yn ochr â'r cymrodyr ymchwil Dr Wendy Booth ac Emyr Jenkins, mae A Beacon of Resilience: St Joseph’s Boxing Club hefyd wedi ennill nifer o wobrau eleni, gan gynnwys y Ffilm Ddogfen Nodwedd Orau yng Ngŵyl Ffilmiau'r De-orllewin (South West Film Fest) yn Swydd Gaerloyw, a Gwobr Anrhydedd yng Ngŵyl Ffilmiau Chwaraeon Ryngwladol Slofenia.
Dywedodd yr Athro Ayisi: "Rwy'n arbennig o falch bod ffilm ddogfen sy'n seiliedig ar brofiadau clwb bocsio cymunedol lleol yng Nghasnewydd bellach yn cyrraedd cynulleidfaoedd ar draws gwahanol gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r ffaith iddi gael ei chydnabod gan ŵyl ffilmiau ranbarthol, gŵyl ffilmiau chwaraeon ryngwladol, ac ŵyl ffilmiau Affricanaidd yn Silicon Valley hefyd yn dangos y gwahanol sgyrsiau y gall y ffilm eu hysgogi ynghylch arferion ffilmiau dogfen, chwaraeon a datblygu pobl ifanc, lles cymunedol, gwydnwch, a phrofiadau cymunedau Du, Asiaidd a'r diaspora Affricanaidd.
"Mae'r gwobrau a'r detholiadau swyddogol gan wyliau yn rhoi cydnabyddiaeth bwysig nid yn unig i'r ffilm a'r ymchwil, ond hefyd i Glwb Bocsio St Joseph ac i'r bobl ifanc, y hyfforddwyr ac aelodau'r gymuned a gymerodd ran hael yn y broses o'i chreu – o ddatblygu'r syniadau i gyd-greu a llunio cynnwys y ffilm. Mae eu profiadau a'u cyfraniadau wrth wraidd y ffilm ddogfen."
Cynhelir Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd Silicon Valley yng Nghaliffornia rhwng 8 ac 11 Hydref 2026.
Cynhelir dangosiad o A Beacon of Resilience: St Joseph’s Boxing Club ddydd Iau 15 Hydref yn y Meeting House, Campws Trefforest PDC, rhwng hanner dydd a 2yp i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon.