Mis Ymwybyddiaeth ADHD | Myfyrwraig PDC yn herio stigma ADHD yn Zimbabwe

15 Hydref, 2026

Anodiwa sits by a window on a train, wearing a dark scarf and a blue and tan jacket. Several colourful clips decorate her long braided hair.

Mae myfyrwraig o Brifysgol De Cymru (PDC) yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i herio cam-syniadau am ADHD ac anhwylderau datblygiadol eraill yn ei gwlad enedigol, Zimbabwe.

Lansiodd Anodiwa Sa, sy'n astudio BSc (Anrh) mewn Seicoleg ac Anhwylderau Datblygiadol, ei chyfrifon Instagram a TikTok ar ôl sylweddoli bod diffyg gwybodaeth hygyrch a dealltwriaeth am anhwylderau datblygiadol yn Zimbabwe.

Yn wreiddiol o Zimbabwe, symudodd Anodiwa i'r DU yn 2024 i astudio. Tyfodd ei diddordeb mewn anhwylderau datblygiadol yn ystod ei dwy flynedd gyntaf yn PDC, ac yna gwnaeth cyfnod o brofiad gwaith gyda phediatregydd datblygiadol yn Zimbabwe cadarnhau ei huchelgais i weithio yn y maes.

Dywed Anodiwa fod cam-syniadau am ADHD ac awtistiaeth yn parhau i fod yn gyffredin yn Zimbabwe, ac weithiau caiff anhwylderau datblygiadol eu diystyru neu eu camddeall oherwydd credoau diwylliannol.

"Mae gwahaniaehtau datblygiadol yn rhan o amrywiaeth dynol" meddai. "Dyna beth ydyn nhw. Dyna sut y cawsoch chi eich geni. Does dim byd mawr ynddyn nhw. Does dim byd drwg ynddyn nhw."

Mae'r ymateb i'w chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol wedi dangos i Anodiwa fod awydd am well dealltwriaeth. Mae pobl wedi ymateb i'w chynnwys ac wedi dweud wrthi eu bod wedi cael eu labelu'n "wahanol" neu'n "dwp" pan oeddent yn blant, a'u bod yn uniaethu â'r wybodaeth y mae hi'n ei rhannu.

Pan mae Anodiwa wedi dychwelyd adref, mae pobl yn Zimbabwe wedi dod ati i ddweud eu bod wedi gweld ei chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn ddiweddar dywedodd un o'i chefndryd wrthi fod ei chynnwys wedi newid y ffordd yr oedd yn edrych ar ADHD ac awtistiaeth.

"Dywedodd fod fy fideos wir wedi agor ei lygaid a'i feddwl," meddai Anodiwa. "Sylweddolodd nad rhywbeth i'w osgoi ydyw.

"Roedd hynny'n gynnes iawn i'm calon."

Mae Anodiwa hefyd wedi mynd â'i gwaith eirioli y tu hwnt i'r cyfryngau cymdeithasol. Bu'n aelod o banel mewn gweminar a oedd yn canolbwyntio ar anhwylderau datblygiadol yn Zimbabwe, ochr yn ochr â phediatregydd datblygiadol a therapydd.

Cafodd y digwyddiad ei wylio gan dros 100 o bobl ac archwiliodd agweddau meddygol ac iechyd meddwl anhwylderau niwro-ddatblygiadol. Siaradodd Anodiwa am effeithiau labeli a stigma ar iechyd meddwl.

Mae ei hangerdd dros y pwnc hefyd wedi'i lunio gan brofiad ymarferol. Treuliodd dri mis yn gweithio yng nghanolfan cymorth dysgu ysgol yn Zimbabwe, profiad a helpodd i lunio ei huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Mae hi'n gobeithio dychwelyd i Zimbabwe yn y pen draw a gweithio fel ymgynghorydd, gan gefnogi ysgolion i ddeall ac ymateb yn well i anghenion plant ag anhwylderau datblygiadol.

Mae ei huchelgais hirdymor hyd yn oed yn fwy. Dywedodd: "Rwyf am sefydlu ysgol arbenigol sy'n dod â gweithwyr proffesiynol ynghyd, gan gynnwys therapyddion lleferydd ac iaith a therapyddion galwedigaethol i ddarparu cymorth unigol i blant."

I Anodiwa, mae ei gradd yn PDC yn darparu'r wybodaeth a'r profiad i helpu i wireddu'r uchelgais hwnnw.

"Rwyf wrth fy modd â seicoleg ac rwyf wrth fy modd â phopeth am fy nghradd, oherwydd rwy'n mynd i'r ysgol i ddysgu am bethau sy'n berthnasol i mi ac sy'n berthnasol i bawb arall," meddai.

Ar ôl derbyn diagnosis ADHD ei hun yn ddiweddar, mae Anodiwa hefyd yn dechrau deall ei phrofiadau ei hun o bersbectif newydd.

"Roeddwn i wastad wedi teimlo'n wahanol ond heb ddeall yn iawn pam," meddai. "Nawr, gallaf ddefnyddio fy ngwybodaeth academaidd a'm profiad personol i helpu eraill. Rwy'n gobeithio y bydd y sgyrsiau rwy'n eu cychwyn nawr yn parhau ymhell ar ôl i mi raddio."

Sut beth yw astudio seicoleg?

video-psychology-student-cym.jpg