Mae ymchwil gan PDC a Media Cymru yn tynnu sylw at flaenoriaethau ar gyfer diwydiant sgrin Cymru
25 Medi, 2026
Mae adroddiad newydd gan Brifysgol De Cymru yn darparu darlun wedi’i ddiweddaru o weithlu sgrin Cymru, gan helpu i nodi blaenoriaethau hyfforddi yn y dyfodol a chefnogi datblygiad parhaus y sector.
Mae Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru 2026 wedi’i gyhoeddi fel rhan o Media Cymru – rhaglen ddatblygu a chonsortiwm pum mlynedd sydd â’r nod o drawsnewid Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a sector cyfryngau ehangach Cymru yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau sy’n wyrdd, yn deg ac yn gynhwysol.
Mae’r adroddiad yn adeiladu ar arolwg meincnod a gynhaliwyd gyntaf yn 2022 er mwyn deall yn well y bobl sy’n gweithio ar draws diwydiannau sgrin Cymru, ynghyd â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n eu hwynebu. Mae’n archwilio demograffeg y gweithlu, lleoliadau gwaith, a’u dosbarthiad ar draws gwahanol is-sectorau’r diwydiant sgrin. Mae hefyd yn edrych ar anghenion hyfforddi presennol, gallu i arloesi, llesiant, amgylcheddau gwaith, cynaliadwyedd, a phryderon ehangach y diwydiant.
Bu arolwg gwreiddiol 2022 yn allweddol wrth lywio darpariaeth hyfforddiant y Brifysgol ar gyfer y sector sgrin, gan gyfrannu at ddylunio a chyflwyno 22 o gyrsiau hyfforddi rhwng 2023 a 2026. Trwy ailadrodd yr arolwg ym mlwyddyn olaf rhaglen Media Cymru, mae ymchwilwyr wedi gallu darparu cipolwg cyfredol ar y sector a nodi sut mae blaenoriaethau wedi esblygu dros amser.
Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio darpariaeth hyfforddiant yn y dyfodol, gan sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu teilwra i anghenion gweithlu’r sector sgrin yng Nghymru, yn enwedig gweithwyr llawrydd, a’u bod yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn ymateb i ofynion y diwydiant.
Mae’r adroddiad hefyd yn darparu tystiolaeth werthfawr i gyflogwyr, llunwyr polisi, a darparwyr hyfforddiant sy’n ceisio cefnogi twf parhaus a chadernid diwydiant sgrin Cymru.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn yma: Arolwg Gweithlu Sgrin Cymru 2026