PDC yn sicrhau cyllid ar gyfer prosiect hyfforddi arloesol tai sero-net

28 Medi, 2026

Mae gweithiwr proffesiynol tai sy’n dal clipfwrdd yn siarad â phreswylydd wrth ddrws cartref.

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi sicrhau £88,739 o gyllid ar gyfer prosiect newydd a fydd yn helpu gweithwyr proffesiynol tai i gydweithio’n yn fwy effeithiol i wella effeithlonrwydd ynni tai cymdeithasol ar draws Rhanbarth Dinas Bae Abertawe.

Mae adeiladau yn cyfrif am tua 40% o allyriadau carbon y DU, gan eu gwneud yn ffocws allweddol mewn ymdrechion i leihau allyriadau carbon, lleihau biliau ynni, a chreu dyfodol mwy cynaliadwy.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd ymchwilwyr PDC yn datblygu rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer pobl sy'n ymwneud ag uwchraddio tai cymdeithasol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar dechnoleg yn unig, bydd y prosiect yn helpu gweithwyr proffesiynol tai i wella'r sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni llwyddiannus.

Bydd yr hyfforddiant yn defnyddio efelychiadau realistig, gan ganiatáu i gyfranogwyr weithio trwy senarios bywyd go iawn ac archwilio effaith eu penderfyniadau. Bydd cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, contractwyr, a phartneriaid eraill yn cymryd rhan mewn ymarferion sydd wedi'u cynllunio i wella cydweithio a helpu sefydliadau i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Bydd hyd at 150 o weithwyr proffesiynol yn cymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth sefydliadau gan gynnwys Codi Group, United Welsh, Caredig, Cyngor Abertawe, Beacon Cymru, a Sero.

Dywedodd Dr Dan Bowers, Pennaeth Seicoleg ac Arweinydd y Prosiect: "Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyllid hwn a'r cyfle i adeiladu ar waith Rhwydwaith Ymchwil Tai ac Iechyd PDC.

"Mae'r prosiect yn arbennig o bwysig Ranbarth Ddinas Bae Abertawe (SBCR), sydd â thua 50,000 o eiddo tai cymdeithasol ac sy'n buddsoddi'n helaeth mewn datgarboneiddio tai.

"Mae llawer o sylw wedi'i roi i'r technolegau sydd eu hangen i gyrraedd sero net, ond nid yw technoleg ar ei ben ei hun yn ddigon. Credwn y gall gwell cydlynu rhwng sefydliadau helpu i wneud y mwyaf o fanteision buddsoddiad a gwella canlyniadau i denantiaid."

Dywedodd David Bould, Rheolwr Prosiect The SWITCH to Net-Zero Buildings: "Mae hwn yn brosiect cydweithredol cyffrous a fydd yn trosglwyddo canlyniadau ymchwil i gymwysiadau yn y byd go iawn er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau wrth fabwysiadu technolegau adnewyddadwy.

"Bydd yr hyfforddiant yn gwella'r arbenigedd rhanbarthol a'r gefnogaeth sydd ar gael i drigolion, gan wella eu profiad o fyw mewn cartrefi sydd wedi’u datgarboneiddio, a chefnogi trawsnewidiad Rhanbarth Ddinas Bae Abertawe i economi carbon isel."

Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu drwy 'Switch to Net Zero Buildings Place Based Impact Acceleration Account' gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (ESPRC).