Camwch i fyd ffuglennol: Yr apêl barhaol o aros mewn gwestai llenyddol

10 Tachwedd, 2026

Ynys Burgh

Mae Dr Rebecca Hutcheon, Cymrawd Ymchwil ar gyfer Effaith yng Nghyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, yn ysgrifennu ar gyfer The Conversation am dwf gwestai llenyddol.

Mewn digwyddiad llenyddol yng Ngwesty Burgh Island yn ne Dyfnaint yn ddiweddar, dywedodd y nofelydd Catherine Newman, pryd bynnag y byddai’n edrych i lawr o glogwyni serth yr ynys wrth gerdded, ei bod bron â disgwyl dod o hyd i gorff.

Roedd yn ymateb priodol i le a helpodd i ysbrydoli nofelau trosedd Agatha Christie, gan gynnwys Evil Under the Sun. Yn y nofel, mae Christie yn gwneud unigrwydd yr ynys yn rhan o'r dirgelwch. Pan mae’r cymeriad Emily Brewster yn sylwi, “Dydy hwn ddim yn fath o le lle byddech chi’n dod o hyd i gorff”, mae’r ditectif enwog Hercule Poirot yn ymateb: “Ond pam lai?”

Mae Burgh Island yn fwy na gwesty hardd gydag arddull ‘art-deco’. Mae ei glogwyni, ei lwybr llanw a’i unigrwydd yn ffeithiau daearyddol, ond trawsnewidiodd Christie y nodweddion hyn mewn i elfennau o fyd ffuglennol. Ers hynny, mae cenedlaethau o ddarllenwyr wedi dysgu gweld yr ynys drwy ei straeon.

Mae hyn yn rhan o'r hyn sy'n gwneud gwestai llenyddol mor ddiddorol. Mae rhai yn gysylltiedig â bywydau awduron, eraill â’r lleoedd lle gweithion nhw. Mae trydydd grŵp wedi dod yn rhan o’r byd ffuglennol ei hun.

O fywydau awduron i fydoedd ffuglennol

Flynyddoedd yn ôl, yn fuan ar ôl symud i Gaerhirfryn, treuliais noson mewn gwesty lle bu Dickens yn aros ar un adeg. Roedd rhywfaint o bleser o wybod ei fod wedi bod yno o'm blaen, ond roedd y cysylltiad yn un hanesyddol yn hytrach na llenyddol. Roedd y gwesty’n perthyn i fywyd Dickens, nid i'r byd ffuglennol a greodd.

Mae gwestai eraill yn cynnig cysylltiad mwy uniongyrchol â'r weithred o ysgrifennu. Mae perthynas y bardd Dylan Thomas â Gwesty Brown's yn Nhalacharn, de-orllewin Cymru, yn perthyn i'r categori hwn. Byddai'n cerdded o'r Boathouse lle bu'n byw ac yn ysgrifennu -  i'r dref, gan dreulio amser yn Brown's.

Mae lleoedd o'r fath yn cynnig cipolwg ar yr amgylchiadau lle’r oedd awduron yn byw ac yn gweithio. Ond nid yw presenoldeb awdur o reidrwydd yn dweud wrthym sut y daeth stori benodol i fodolaeth. Mae'r berthynas yn newid pan fydd gwesty'n dod yn rhan o fyd ffuglen ei hun.

Mae gwestai yn lleoliadau addasadwy iawn ar gyfer straeon ffuglen. Maent yn dod â dieithriaid ynghyd mewn cymunedau dros dro, gan greu cyfleoedd ar gyfer cyfarfyddiadau, camddealltwriaeth ac amheuaeth. Mewn straeon ffuglen dditectif, gallant hefyd ddarparu ymdeimlad parod o fod wedi’u hamgáu mewn lle penodol: man lle mae cymeriadau'n cael eu dwyn ynghyd a lle mae dianc yn anodd.

Arhosodd Christie ar Burgh Island ac ysgrifennodd yn ei ‘Beach House’, gan dynnu ar ei ddaearyddiaeth nodweddiadol. Yn ‘And Then There Were None’, mae'r ynys yn cynnwys tŷ sy'n annisgwyl o fodern; yn ‘Evil Under the Sun’, sydd yn troi'n westy ffasiynol, y Jolly Roger Hotel.

Mae unigrwydd yr ynys yn real, ond trawsnewidiodd Christie ef yn rhywbeth mwy. Yn ei nofelau, daw’r dirwedd yn rhan o’r mecanwaith sy’n creu tensiwn. Felly, gall gwybod y straeon newid y ffordd y mae ymwelwyr yn profi'r lle ei hun. Nid llwybr ar draws y dŵr yn unig fwyach yw sarn; mae'n dod yn atgof y gall ynys gael ei thorri i ffwrdd o'r byd y tu allan.

Gellir gweld ffenomen debyg yn Jamaica Inn ar Ros Bodmin. Bu profiadau Daphne du Maurier yn y dafarn yn gymorth i ysbrydoli ei nofel o’r un enw, a gyhoeddwyd ym 1936.

Yn ystod ymweliadau cynnar, aeth hi a’i chydymaith ar goll yng nghanol y niwl a’r tywyllwch ar y rhos wrth farchogaeth, cyn dod o hyd i’w ffordd yn ôl yn y pen draw gyda chymorth eu ceffylau. Mae’r profiad o unigedd ac ansicrwydd yn atseinio drwy’r nofel, lle mae’r dafarn yn sefyll fel “tirnod ofnadwy” mewn tirwedd anghyfannedd.

Yn y ddau achos, mae'r berthynas rhwng lle a ffuglen yn gweithio i’r ddau gyfeiriad. Mae'r dirwedd go iawn yn darparu deunydd ar gyfer y stori, tra bod y stori yn rhoi hunaniaeth newydd i'r dirwedd.

Bywyd ar ôl llenyddiaeth

Mae Gwesty'r King's Arms yn Dorchester yn dangos sut y gall y tri chategori hyn orgyffwrdd. Arhosodd y nofelydd Thomas Hardy yno, ysgrifennodd yno ac ymgorfforodd yr adeilad yn The Mayor of Casterbridge fel prif westy Casterbridge.

Mae'r adeilad felly yn perthyn i fywgraffiad Hardy ac i'w ffuglen fel ei gilydd. Yn ystod ei oes, daeth y King's Arms yn rhan o ddaearyddiaeth lenyddol Wessex a oedd yn dod i’r amlwg, gan ddenu darllenwyr a oedd yn awyddus i gysylltu lleoliadau ffuglennol â rhai go iawn.

Helpodd Hardy i feithrin y cysylltiad hwn trwy ddiwygio ei nofelau a'i ragymadroddion i bwysleisio Wessex, y rhanbarth ffuglennol sy'n seiliedig ar leoedd go iawn yn ne-orllewin Lloegr. Nid gwesty lle’r oedd Hardy wedi aros yn unig oedd y King's Arms mwyach; roedd wedi dod yn rhan o'r dirwedd y daeth ei ddarllenwyr i'w archwilio.

Ar draws Prydain, mae gwestai, tai a thafarndai yn parhau i ddenu ymwelwyr trwy eu cysylltiadau ag awduron a llyfrau. Mae rhai yn cynnig cipolwg ar fywyd awdur, tra bod eraill yn caniatáu i ddarllenwyr ddod ar draws lleoedd sydd wedi dod yn anwahanadwy o'r straeon a adroddir amdanynt.

Mae'n wahaniaeth pwysig oherwydd gall gwesty lle arhosodd awdur unwaith ddod â ni'n agosach at hanes llenyddol. Mae gwesty sydd wedi ymddangos mewn ffuglen yn cynnig rhywbeth gwahanol: y cyfle i brofi lle trwy fyd y gwnaethom ddod ar ei draws yn gyntaf ar y dudalen.

Mae gwestai llenyddol yn gwneud y berthynas rhwng llenyddiaeth a'r byd y tu hwnt iddi yn weladwy. Mae'r adeiladau'n go iawn, ond mae eu harwyddocâd yn cael ei ail-lunio'n barhaus gan y straeon sy'n gysylltiedig â nhw a'r darllenwyr sy'n mynd yno i chwilio am y straeon hynny. Yn yr ystyr hwn, nid taith i'r gorffennol yn unig yw ymweld â gwesty llenyddol. Mae hefyd yn ffordd o gamu, hyd yn oed am gyfnod byr, i fyd ffuglennol.

 

Mae'r erthygl hon wedi'i hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Mae'r barnau a fynegir yn erthyglau The Conversation yn farn yr awdur(on) ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol De Cymru.