Mis Hanes Anabledd | Ymchwil yn tynnu sylw at brofiadau tadau sy’n magu plant anabl

17 Tachwedd, 2026

Portread agos o berson â gwallt tywyll hir, yn gwisgo top tywyll a siaced.

Mae ymchwil gan Brifysgol De Cymru (PDC) wedi tynnu sylw at brofiadau tadau sy'n magu plant sy'n anabl a/neu sydd ag anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gymorth a sicrhau bod ei lleisiau’n cael eu clywed.

Roedd Emma-Jane Davies, a raddiodd yn ddiweddar o gwrs BSc (Anrh) Datblygiad Plentyndod PDC, yn rhan o dîm ymchwil myfyrwyr dan arweiniad Dr Klara Price a weithiodd gyda Dads Group Gwent, grŵp cymorth ar gyfer tadau a gofalwyr gwrywaidd plant ag anableddau a/neu anawsterau datblygiadol.

Nododd cyfweliadau â thadau nifer o themâu a oedd yn codi dro ar ôl tro yn eu profiadau, gan gynnwys newidiadau i’w hunaniaeth a’u blaenoriaethau, stereoteipiau cymdeithasol, cymhlethdodau magu plentyn ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd (SEND), a theimlad nad oedd digon o gefnogaeth ar gael.

Dywedodd Emma-Jane: "Siaradodd y tadau â ni am yr heriau amrywiol yr oeddent  eu hwynebu, gan gynnwys rhwystrau corfforol ac emosiynol, rhwystrau cymdeithasol, stereoteipiau, a stigma.

"Un o'r pethau a ddaeth i’r amlwg oedd bod rhai o'r tadau a geisiodd gymorth wedi cael eu hannog i wneud hynny gan eu partneriaid. Roeddent yn teimlo na fyddai pobl eisiau clywed cwynion ganddynt, ac, fel tadau, eu bod yn teimlo bod rhaid iddynt fod y rhai sy’n darparu ar gyfer y teulu.”

"Mae cael plentyn yn newid bywyd mawr i unrhyw un, ond roedd y tadau hyn hefyd yn wynebu'r heriau ychwanegol a all ddod gyda magu plentyn SEND."

Canfu'r ymchwil fod cyfrifoldebau gofalu wedi ail-lunio bywydau'r tadau mewn gwahanol ffyrdd. Roedd rhai wedi gadael cyflogaeth neu leihau eu horiau gwaith i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng eu cyfrifoldebau gwaith a theuluol, tra bod eraill yn disgrifio cyflogaeth fel seibiant gwerthfawr oddi wrth ddwysedd y gwaith gofalu.

Gall disgwyliadau traddodiadol, sy'n awgrymu mai'r tad ddylai fod y prif enillwr incwm, wneud y penderfyniadau hyn yn anoddach. Soniodd un cyfranogwr, a oedd wedi symud i waith rhan-amser, ei fod yn teimlo bod pobl yn disgwyl iddo ef, fel y tad, fod yr un sy'n ennill incwm y teulu.

Amlygodd yr astudiaeth hefyd rai o'r rhwystrau o ran hygyrchedd y daeth teuluoedd ar eu traws. Disgrifiodd un tad yr anawsterau a gafodd wrth geisio dod o hyd i gyfleusterau newid addas wrth fynd â'i ferch – sy'n defnyddio cadair olwyn – i nofio; nodwyd hefyd yr anawsterau a wynebir gan deuluoedd sy'n chwilio am ofal plant ac addysg hygyrch.

I rai cyfranogwyr, roedd y pwysau sy'n gysylltiedig â gofalu hefyd yn effeithio ar berthnasoedd ac ar eu llesiant eu hunain. Soniodd tadau am golli cysylltiad â ffrindiau a theulu, cael cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, a chael trafferth dod o hyd i amser gyda'u partneriaid, ar wahân i'w cyfrifoldebau gofalu.

Yn y cyd-destun hwn, roedd Dads Group Gwent yn cynnig ffynhonnell bwysig o gymorth. Wedi'i sefydlu yn 2015, mae'r grŵp yn cwrdd bob mis ac yn darparu lle i dadau a gofalwyr gwrywaidd rannu eu gwybodaeth a'u profiadau.

Canfu'r ymchwil fod ei amgylchedd diogel a di-feirniadol yn cael ei werthfawrogi'n arbennig. Siaradodd tadau am gyfeillgarwch cwrdd â dynion eraill mewn amgylchiadau tebyg, y gallu i rannu profiadau yn agored, a derbyn gwybodaeth am gymorth a gwasanaethau eraill.

Dywedodd Emma-Jane: "Roedd yn bwysig iddyn nhw gael y gofod hwnnw. Roeddent gyda phobl a oedd yn deall rhywfaint o'r hyn yr oeddent yn ei brofi, a gallent siarad yn rhydd.

"Fe wnaethon nhw siarad am ba mor bwysig y gallai hiwmor a chellwair fod hefyd. Rhoddodd ffordd iddyn nhw gyfathrebu a rhyddhau pethau nad oedden nhw’n teimlo eu bod nhw’n eu cael mewn mannau eraill.”

Gallai'r effaith fod yn ddwfn. Disgrifiodd rhai cyfranogwyr Dads Group Gwent fel un sy’n “newid bywydau". Mae'r ymchwil yn argymell codi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael, cynyddu cynnwys tadau mewn sgyrsiau a phenderfyniadau am eu plant, herio’r stigma o amgylch dynion sy'n ceisio cymorth, ac ehangu argaeledd cymorth i dadau plant SEND. Mae hefyd yn argymell ystyried ymestyn y rhaglen i rannau eraill o Gymru a'r DU ehangach.

Dywedodd Emma-Jane: "Roedd y tadau hyn yn wynebu heriau oherwydd anghenion ychwanegol a/neu anableddau eu plant, ond roedden nhw hefyd yn delio â disgwyliadau ynghylch bod yn dad a gofyn am gymorth.

"Roedd cael rhywle y gallent gwrdd â phobl â phrofiadau tebyg a theimlo eu bod yn gallu siarad yn agored, yn hynod bwysig."

Ar ôl graddio, mae Emma-Jane bellach yn dysgu astudiaethau plentyndod yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro ochr yn ochr ag astudio ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg yn PDC, gyda'r uchelgais o ddod yn ddarlithydd.