Teulu PDC

Tîm Amserlennu a Ffeiliau Cyrsiau

Mae'r Tîm Amserlennu a Ffeiliau Cyrsiau yn rhan o Cofnodion, Adroddiadau a Systemau Myfyrwyr, sy'n rhan o Gofrestrfa Academaidd y Brifysgol.

Teulu PDC Swyddi
an image for the masthead - cropping out white space

"Ar hyn o bryd mae 11 ohonon ni ac rydyn ni’n hanu o bob cwr o'r byd!  Rydyn ni wedi'n gwasgaru ar hyd a lled holl gampysau'r Brifysgol fel arfer.  Ond unwaith yr wythnos byddwn yn dod at ein gilydd fel tîm llawn ar un o'r campysau.

"Mae'r tîm Amserlennu yn gyfrifol am adeiladu a mireinio amserlenni addysgu ar gyfer ein myfyrwyr ar gampws. Rydyn ni hefyd yn rheoli'r archebion ar hap ar gyfer ystafelloedd, a all fod yn unrhyw beth o weithgareddau recriwtio, i fyfyrwyr sydd angen ystafell ar gyfer clwb Undeb Myfyrwyr hyd at archebion allanol drwy’r adran Cynadleddau.  Os oes angen lle ar unrhyw un, aton ni y dylen nhw ddod gyntaf!

"Mae’r tîm Ffeiliau Cyrsiau  yn ychwanegiad newydd ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol ar Quercus o ran strwythur cyrsiau a modiwlau, sy'n hynod bwysig nawr ein bod yn symud i amserlenni personol i fyfyrwyr a staff o fis Medi.  Mae unrhyw ymholiadau sydd gan staff neu fyfyrwyr ynghylch mynediad i gyrsiau a modiwlau ar Blackboard yn cael eu rheoli gan y tîm hwn hefyd.

RHAN ORAU'R SWYDD? MAE HYNNY'N HAWDD: Y TÎM

Tîm Amserlennu a Ffeiliau Cyrsiau

"Does mo’r fath beth â diwrnod arferol. Mae pob dydd yn wahanol. Mae gwaith amserlennu wedi cael ei gymharu â chwblhau pos 3D gyda'r llun ar glawr y bocs ar goll.. ... a darnau ar goll!  Mae’r tîm Ffeiliau Cwrs yn dysgu drwy’r amser, mae pob diwrnod yn ddiwrnod o ddysgu.

"Rhan orau'r swydd? Mae hynny'n hawdd, mae pawb yn unfryd mai ‘y tîm' yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw, sy'n dyst i’r berthynas wych sydd rhyngon ni.  Mae'r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn golygu y gallwn effeithio ar holl brofiad myfyriwr yn PDC, ac mae hynny’n rhoi tipyn o bwysau arnon ni, felly mae cael tîm gwych o'ch cwmpas yn hanfodol.

"Yn 2021 cawson ni ein henwebu ar gyfer Gwobr STARS y Brifysgol ar gyfer Tîm Proffesiynol y Flwyddyn.  Roedden ni wrth ein bodd ac yn falch o gael ein henwebu a gwybod bod ein gwaith a'n gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi."