Yr hyrwyddwr yw: Prifysgol De Cymru, Llantwit Road, Trefforest, Pontypridd CF37 1DL, Adran Myfyrwyr y Dyfodol, y cyfeirir ati fel ("y Brifysgol").

Teitl y gystadleuaeth yw RAFFL FAWR YMGEISWYR PDC 2025

Telerau ac Amodau

Mae'r Brifysgol yn gwahodd pob ymgeisydd am le yn 2025, a phob person sydd wedi derbyn cynnig, i gymryd rhan yn ein Raffl Fawr Ymgeiswyr PDC 2025 trwy ein Sianel Instagram breifat Ymgeiswyr PDC 2025. Byddwn yn cynnal deg (10) raffl fawr sy'n cynnwys gwobrau lletygarwch, profiadau, siopa, gemau rygbi a chynlluniau aelodaeth flynyddol. 

Y Rheolau

1. Sut i roi cynnig arni

1.1. Rydym yn cynnal cyfres o rafflau rhwng dydd Mawrth 26 Awst a dydd Gwener 26 Medi.   Mae cyfanswm o 10 raffl, ac mae manylion pob raffl i’w gweld yn Amod 3. Y Wobr, Manylion y Wobr (tabl)

1.2. Hoffwch bostiad Instagram pob raffl unigol a rhowch sylw gyda'ch enw llawn a'r cwrs y byddwch chi'n ei astudio.

1.3. Mae cyfyngiad o un cais i bob person fesul raffl. Ni allwch gael eich dewis fel enillydd ar gyfer mwy nag un raffl. Os byddwch yn ennill raffl, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer rafflau’r dyfodol.  Ni dderbynnir ceisiadau ar ran person arall.

1.4. Byddwch yn cystadlu yn raffl fawr Ymgeiswyr PDC 2025 yn ddi-dâl a does dim angen prynu unrhyw beth.

1.5. Bydd pob cais a dderbynnir ar gyfer y raffl ôl y Dyddiad Cau yn cael ei wrthod.

1.6. Trwy gyflwyno cais raffl i Raffl Fawr Ymgeiswyr PDC 2025, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn.

1.7. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr buddugol yn cael eu dewis ar hap o blith pob cais a dderbyniwyd o fewn terfynau amser y raffl berthnasol.

2. CYMHWYSEDD

2.1. Dim ond i ymgeiswyr presennol a deiliaid cynnig i ddechrau yn y Brifysgol ym Medi 2025 mae’r raffl yn agored, a rhaid iddynt fod yn 16 oed neu'n hŷn ac wedi ymuno â Sianel Instagram preifat Grŵp Ymgeiswyr PDC 2025, y gellir gwirio eu cymhwysedd yn erbyn data a gedwir gan y Brifysgol, ac eithrio pobl sy’n gweithio i’r Brifysgol neu unrhyw gwmnïau cysylltiedig, ac aelodau o'u teuluoedd agos neu eu haelwydydd.

2.2. Gall eich cais i’r Brifysgol fod ar unrhyw gam o’r broses a gall deiliaid cynigion fod â chynigion amodol neu ddiamod.

2.3. Wrth gymryd rhan yn y raffl fawr, rydych chi'n cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio unrhyw wobr y gallech ei hennill.

2.4. Mae'r Brifysgol yn cadw pob hawl i'ch anghymhwyso os yw eich ymddygiad yn groes i ysbryd neu fwriad y raffl neu os ystyrir eich bod yn anghymwys yn ôl cofnodion y Brifysgol.  

3. Y GWOBR

3.1. Y Brifysgol fydd yn cyflenwi’r wobr. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i newid y wobr am wobr wahanol o’r un gwerth, neu’n werth uwch,  os yw amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol yn golygu bod angen gwneud hynny.

3.2. Ni allwch ddewis eich gwobr, ac ni ellir trafod pa wobr i’w derbyn, na chyfnewid, na throsglwyddo gwobr, ac ni fydd unrhyw arian yn cael ei gynnig yn lle gwobr.

3.3. Nid yw defnydd y Brifysgol o frandiau penodol fel gwobrau yn awgrymu unrhyw gysylltiad â’r brandiau hynny, nac yn eu cymeradwyo.

3.4. Nid yw'r Brifysgol yn darparu unrhyw ffurf ar gymorth ymarferol ar gyfer gwobr, mae pob gwobr yn cael ei darparu "fel y mae". Gall gwobrau fod yn ddarostyngedig i'w telerau ac amodau eu hunain, wedi’u cyhoeddi gan y darparwr perthnasol.  I dderbyn y wobr, rhaid i'r enillydd hefyd dderbyn unrhyw delerau ac amodau perthnasol i’r wobr (telerau ac amodau talebau, er enghraifft).

3.5. Nid yw'r raffl yn cael ei noddi, ei chymeradwyo na'i gweinyddu gan Instagram nac yn gysylltiedig ag Instagram. Ni fydd Instagram yn helpu i weinyddu'r raffl ac ni all roi cyngor ynghylch a oes angen caniatâd i ddefnyddio cynnwys defnyddwyr na sut i gael unrhyw ganiatâd a allai fod ei angen. Rydych yn defnyddio Instagram ar eich risg eich hun a byddwch yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau perthnasol a datganiad preifatrwydd y wefan honno.

MANYLION Y GWOBRAU

Raffl Disgrifiad o’r Wobr Nifer yr "Enillwyr" "Dyddiad Agor" "Dyddiad Cau" "Dyddiad Cyhoeddi" Ble i gasglu
1 Canolfan Siopa Dewi Sant,  gellir defnyddio’r cerdyn rhodd yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Stryd y Bont, Canolfan Dewi Sant, Caerdydd CF10 2EF, yn y rhan fwyaf o siopau'r ganolfan ond nid pob un. Gweler telerau ac amodau llawn y darparwr yma. Bydd tri (3) enillydd yn derbyn cerdyn rhodd gwerth £100 Dydd Mawrth 26 Awst Dydd Mawrth 2 Medi am 9am Dydd Llun 2 Medi am 12 Casglu’n bersonol o’r campws lle mae’r enillydd yn astudio
2 Nandos, mae'r daleb yn gerdyn e-rhodd gwerth £50 ac mae'n dod i ben 18 mis ar ôl ei ddefnyddio ddiwethaf. Gellir ei wario mewn bwytai Nandos ledled y DU. Gweler telerau ac amodau llawn y darparwr yma.  Bydd tri (3) enillydd yn derbyn e-daleb werth £50 Dydd Mawrth 26 Awst Dydd Mawrth 2 Medi am 9am Dydd Llun 2 Medi am 12 Anfon drwy e-bost
3 Cerdyn Rhodd For Cardiff
Gellir defnyddio’r cerdyn rhodd 'For Cardiff' mewn llawer o fusnesau sy’n rhan o Ardal Gwella Busnes Caerdydd, telerau ac amodau llawn yma.
Bydd tri (3) enillydd yn derbyn cerdyn rhodd gwerth £100 Dydd Llun 1 Medi Dydd Llun 8 Medi am 9am Dydd Llun 8 Medi am 5pm Casglu’n bersonol o’r campws lle mae’r enillydd yn astudio 
4 E-dalebau Cineworld Cinema, Gellir eu defnyddio yn lleoliadau Cineworld ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd a Threfforest. Telerau ac Amodau yma. Bydd tri (3) enillydd yn derbyn e-daleb werth £30 Dydd Llun 1 Medi Dydd Llun 8 Medi am 9am Dydd Llun 8 Medi am 5pm Anfon drwy e-bost
5 Aelodaeth blwyddyn gyda Netflix, Prynir yr aelodaeth drwy gerdyn e-rhodd ac mae'n werth £135. Gallwch ddewis pa fis i ddechrau'r aelodaeth a bydd yn para 12 mis o'r dyddiad cychwyn y cytunir arno. Gweler telerau ac amodau llawn y darparwr yma. Bydd un (1) enillydd yn derbyn aelodaeth 12 mis Dydd Llun 8 Medi Dydd Llun 15 Medi am 9am Dydd Llun 15 Medi am 5pm Anfon drwy e-bost
6 Gemau rygbi rhyngwladol yr hydref URC

Bydd dau docyn mynediad cyffredinol ar gael ar gyfer pob un o’r gemau canlynol yn Stadiwm Principality, Caerdydd:

Cymru v Yr Ariannin dydd Sul 9 Tachwedd

Cymru v Japan dydd Sadwrn 15 Tachwedd

Cymru v Seland Newydd dydd Sadwrn 22 Tachwedd

Cymru v De Affrica dydd Sadwrn 29  Tachwedd 2025

Mae telerau ac amodau llawn ar gael yma.
Bydd pedwar (4) enillydd yn derbyn dau (2) docyn i un o'r gemau penodedig Dydd Llun 15 Medi

Dydd Mawrth 16 Medi

Dydd Mercher 17 Medi

Dydd Iau 18 Medi
Dydd Llun 22 Medi am 3pm

Dydd Mawrth 23 Medi am 3pm

Dydd Mercher 24 Medi am 3pm

Dydd Iau 25 Medi am 3pm
Dydd Llun 22 Medi am 3pm

Dydd Mawrth 23 Medi am 5pm

Dydd Mercher 24 Medi am 5pm

Dydd Iau 25 Medi am 3pm
Anfon drwy e-bost
7 Aelodaeth ParthFfit am flwyddyn, Aelodaeth blwyddyn wedi’i rheoli gan Dîm ParthFfit ar Gampws Trefforest y Brifysgol. Bydd yr aelodaeth yn dechrau o fis Hydref 2025. Gweler telerau ac amodau llawn y darparwr yma. Bydd un (1) enillydd yn derbyn aelodaeth blwyddyn Dydd Llun 15 Medi Dydd Llun 22 Medi am 3pm Dydd Llun 22 Medi am 3pm Bydd Tîm ParthFfit yn cysylltu â'r enillydd i greu cyfrif
8 Cerdyn rhodd IKEA, E-gerdyn rhodd gwerth £100 heb ddyddiad dod i ben. Gellir ei ddefnyddio yn lleoliadau IKEA ledled y DU gan gynnwys Bae Caerdydd. Gweler telerau ac amodau llawn y darparwr yma. Bydd y wobr hon yn cael ei hanfon at yr enillydd trwy e-bost. Bydd tri (3) enillydd yn derbyn cerdyn e-rhodd gwerth £100 Dydd Mawrth 16 Medi Dydd Mawrth 23 Medi am 3pm Dydd Mawrth 23 Medi am 5pm Anfon drwy e-bost
9 Roxy Leisure, Cerdyn e-rhodd yn ddilys tan 1/5/2025. Gellir ei ddefnyddio yn Roxy Leisure mewn lleoliadau penodol ledled y DU gan gynnwys Caerdydd. Gweler telerau ac amodau llawn y darparwr yma.  Bydd dau (2) enillydd yn derbyn cerdyn e-rhodd gwerth £50 Dydd Mercher 17 Medi Dydd Mercher 24 Medi am 3pm Dydd Mercher 24 Medi am 5pm Anfon drwy e-bost
10 Cerdyn rhodd Greggs Cerdyn e-rhodd dilys am 24 mis. Gellir ei ddefnyddio yn lleoliadau Greggs ledled y DU. Gweler telerau ac amodau llawn y darparwr yma.  Bydd tri (3) enillydd yn derbyn cerdyn e-rhodd gwerth £20 Dydd Iau 18 Medi Dydd Iau 25 Medi am 3pm Dydd Iau 25 Medi am 3pm Anfon drwy e-bost

CYHOEDDI ENILLWYR

3.6. Mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebu na thrafod yn digwydd.

3.7. Bydd y Brifysgol yn cysylltu â'r enillydd trwy neges uniongyrchol i’r cyfrif a ddefnyddiwyd i gystadlu yn y raffl fawr cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar neu ar ôl y Dyddiad Cyhoeddi. Ni fydd y Brifysgol yn diwygio'r wybodaeth gyswllt hon wedi i’r cais i fod yn rhan o’r raffl gael ei gyflwyno.

3.8. Bydd rhaid i'r enillydd ymateb i'r neges uniongyrchol i gadarnhau cyfeiriad e-bost y cais er mwyn i’r Brifysgol wirio bod y meini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni. Bydd pob cyfathrebu pellach yn cael ei wneud drwy’r  cyfeiriad e-bost hwn (nid Instagram).

3.9. Bydd yr enillydd yn cael ei ddatgelu’n gyhoeddus ar y Dyddiad Cyhoeddi yn adran sylwadau Instagram i longyfarch yr enillydd.  Mae ymuno â’r raffl yn cadarnhau eich bod yn fodlon i’ch enw gael ei gyhoeddi fel enillydd y gystadleuaeth yn y ffordd hon.

4. HAWLIO'R WOBR

4.1. Os byddwch yn ennill gwobr, bydd gennych 72 awr o'r adeg y caiff y neges uniongyrchol ei hanfon atoch ar neu ar ôl y Dyddiad Cyhoeddi i hawlio'r wobr trwy ymateb i'n e-bost a anfonir atoch i’r cyfeiriad a roddwyd gennych yn ystod y broses ddilysu (manylir yn Amod 2). Os na fyddwch yn hawlio'ch gwobr o fewn yr amser hwn, bydd eich hawliad yn annilys.

4.2. Ni all trydydd parti hawlio'r wobr ar eich rhan.

4.3. Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gysylltu â'r enillydd. Os na ellir cysylltu â'r enillydd neu os nad yw ar gael, neu os nad yw wedi hawlio’r wobr o fewn yr amser a bennir, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynnig y wobr i'r ymgeisydd cymwys nesaf a ddewisir o'r ceisiadau a dderbyniwyd cyn Dyddiad Cau'r raffl berthnasol.

4.4. Nid yw'r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os nad ydych yn gallu hawlio’r wobr.

4.5. Bydd y Brifysgol yn gwneud trefniadau cyflenwi/casglu trwy gytundeb sy’n gweddu i'r ddwy ochr, o fewn 14 diwrnod o'r Dyddiad Cyhoeddi ac eithrio lle mae trefniadau cyflwyno eraill wedi'u nodi yn Amod 3, Y Gwobrau, Manylion y Gwobrau.

5. ATEBOLRWYDD CYFYNGEDIG

5.1. I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Brifysgol, ei hasiantau na'i dosbarthwyr mewn unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol nac yn atebol i ddigolledu unrhyw ymgeisydd neu drydydd parti ac eithrio mewn achos o anaf personol neu farwolaeth yn deillio o esgeulustod y Brifysgol. Nid oes effaith ar eich hawliau statudol.

6. DIOGELU DATA

6.1. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan y Brifysgol at ddibenion y raffl fawr hon a bydd yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â pholisi preifatrwydd PDC Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol neu: Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnydd o Ddata Personol | Prifysgol De Cymru. Gweler hefyd Amod 4, o ran gwirio a chyhoeddi enillwyr gwobrau.

7. TELERAU CYFFREDINOL

7.1. Os oes unrhyw reswm i gredu y telerau ac amodau hyn wedi’u torri, gall y Brifysgol, yn ôl ei disgresiwn hi’n unig, gadw'r hawl i'ch gwahardd rhag cymryd rhan yn y raffl.

7.2. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynnal, dirymu, atal, canslo, neu ddiwygio'r raffl fawr pan fo’n angenrheidiol gwneud hynny.

7.3. Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr, ac mae'r Brifysgol a chi yn cytuno i ddefnyddio llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

7.4. Os bydd unrhyw anghydfod, bydd penderfyniad y Brifysgol yn derfynol.