Partneriaethau Academaidd
Rheoli Partneriaethau Academaidd
Yn Mhrifysgol De Cymru (PDC), mae ein partneriaethau academaidd yn rhan hanfodol o sut rydym yn ymestyn ein cyrhaeddiad, yn rhannu gwybodaeth ac yn creu cyfleoedd – ledled y DU ac yn rhyngwladol. Boed drwy drefniadau masnachfraint, dilysu, gwobr ddeuol neu gytundeb sefydlog uwch, mae ein partneriaid yn darparu addysg o ansawdd uchel sy’n bodloni’r un safonau academaidd llym a ddisgwylir ar y campws.
Mae pob partneriaeth academaidd yn cael ei lywodraethu gan Fframwaith Partneriaethau Academaidd, y Brifysgol, sy’n darparu canllawiau clir ar sut mae partneriaethau’n cael eu datblygu, eu cymeradwyo, eu rheoli a’i hadolygu. Mae’r Fframwaith hwn yn cyd-fynd â Chod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch ac yn adlewyrchu ymrwymiad PDC i ansawdd, uniondeb ac arloesedd – gan gynnwys ein huchelgeisiau o dan strategaeth Rhyngwladoli 2030.
Mae'r Llawlyfr Presntisiaethau 2025/2026 yn amlinellu'r diffiniadau, y fframweithiau rheoleiddio a'r prosesau dangosol sy'n llywodraethu darpariaeth prentisiaethau'r Brifysgol. Dylid darllen y Llawlyfr Prentisiaethau ar y cyd â Fframwaith Ansawdd y Brifysgol, sy'n manylu ar ddull sicrhau ansawdd cyffredinol PDC, Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Cyrsiau a Addysgir a Fframwaith Partneriaethau Academaidd y Brifysgol.
Mae’r Swyddfa Partneriaethau Academaidd (APO), o fewn y tîm Cwricwlwm, Ansawdd a Phartneriaethau, yn cydlynu pob agwedd o lywodraethu partneriaethau gan gynnwys gweithdrefnau ar y gyfer y Cynllun Statws Athro Cydnabyddedig. Gan weithio’n agos gyda chyfadrannau, pwyllgorau a gwasanaethau proffesiynol, mae’r APO yn sicrhau bod pob trefniant yn cael ei gynnal gan ddiwydrwydd dyladwy cadarn, goruchwyliaeth academaidd gadarn a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir.
Rydym yn sicrhau bod ein partneriaethau:
- Wedi’u halinio’n strategol – Caiff pob cynnig ei asesu yn erbyn cenhadaeth ac uchelgeisiau PDC
- Sicrhau ansawdd – Mae ein prosesau’n cynnwys monitro parhaus, adolygiadau blynyddol ac ailgymeradwyo cyfnodol.
- Wedi’u diffinio’n glir – Rydym yn defnyddio cytundebau ffurfiol a Llawlyfrau Rheoli Partneriaethau i egluro disgwyliadau a chyfrifoldebau.
- Wedi’u rheoli’n gydweithredol – Mae Swyddogion Cyswllt y Brifysgol a staff partneriaid yn gweithio mewn cysylltiad agos i gefnogi myfyrwyr a chynnal safonau.
Mae pob trefniant cydweithredol wedi’i ategu gan gontractau ffurfiol a chytundebau sefydliadol, gyda rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer PDC a sefydliadau partner.
Mae ein rhestr o bartneriaid cydweithredol ar gael i’w hadolygu, gan gynnwys y Gyfadran y maent yn gysylltiedig â hi. Gyda’n gilydd, trwy ymdrech gydweithredol ac uchelgais a rennir, rydym yn darparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sydd ag effaith fyd-eang.
Ymholiad Partner Newydd
Gwahoddir darpar bartneriaid i adolygu ein Fframwaith Partneriaethau Academaidd yn fanwl, i gael trosolwg o’n prosesau cynnig a chymeradwyo partneriaeth. Am ymholiadau am bartneriaethau posib gyda Prifysgol De Cymru, cysylltwch â ni drwy’r arweinydd priodol fel y manylir isod:
Ymholiadau Partneriaeth Academaidd - [email protected]
Ymholiadau Partneriaeth Fasnachol – [email protected]
Ymholiadau Cyfnewid Myfyrwyr Rhyngwladol neu Symudedd Myfyrwyr – [email protected]
Ymholiadau Partneriaeth Ymchwil - [email protected]