Gwybodaeth Eglurhaol - Adysgrif Perfformiad (Prifysgol Cymru, Casnewydd)
Prifysgol Cymru, Casnewydd - Credyd a gyflawnwyd at fis Mawrth 2013
Uned o astudiaeth ddysgu hunan-gynhwysol a chydlynol yw modiwl, sydd â sgôr credyd cyffredinol, lefel ddynodedig, canlyniadau dysgu diffiniedig, a strategaethau asesu priodol o ran ei lefel a'i ganlyniadau.
Diffinnir pwynt credyd fel yr hyn y gellir ei gyflawni mewn deg awr dybiannol o amser dysgu myfyriwr. Y llwyth gwaith blynyddol arferol ar gyfer myfyriwr israddedig llawn amser yw 120 credyd.
Dangosir gradd credyd pob modiwl ar yr adysgrif.
Fel y nodir yn y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch,
- Lefel 4-5 - BTEC/Pearson HNC/HND
- Lefel 4-6 - Camau astudio israddedig, a lefel 6 yw cam terfynol y radd anrhydedd
- Lefel 7 - Rhaglen Feistr
- Lefel 8 - Rhaglen Ddoethuriaeth
| Gradd | Pwynt | Eglurhad (Modiwl) | Gradd Anrhydedd | Gradd Ôl-raddedig | Dyfarniad Edexcel | Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol |
|---|---|---|---|---|---|---|
| A | 16 | Safon Uchaf | Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf | Rhagoriaeth | Rhagoriaeth | Pasio |
| A | 15 | Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf | Rhagoriaeth | Rhagoriaeth | Pasio | |
| A | 14 | Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf | Rhagoriaeth | Rhagoriaeth | Pasio | |
| B | 13 | Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch | Teilyngdod | Teilyngdod | Pasio | |
| B | 12 | Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch | Teilyngdod | Teilyngdod | Pasio | |
| B | 11 | Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch | Pasio | Teilyngdod | Pasio | |
| C | 10 | Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Is | Pasio | Pasio | Pasio | |
| C | 9 | Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Is | Pasio | Pasio | Pasio | |
| C | 8 | Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Is | Pasio | Pasio | Pasio | |
| D | 7 | Gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth | Pasio | Pasio | Pasio | |
| D | 6 | Gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth | Pasio | Pasio | Pasio | |
| D | 5 | Gradd Pasio Ffiniol | Pasio | Pasio | Pasio | Pasio |
| E | 4 | Gradd Methu Ffiniol | Methu | Methu | Methu | Methu |
| F | 3 | Gradd Methu | Methu | Methu | Methu | Methu |
| F | 2 | Gradd Methu | Methu | Methu | Methu | Methu |
| F | 1 | Gradd Methu | Methu | Methu | Methu | Methu |
| 0 | 0 | Gradd Methu gan na wnaeth yr ymgeisydd gyflawni'r asesiad | Methu | Methu | Methu | Methu |
| Def | Nid ymgeisiwyd yr asesiad, ond mae'r Bwrdd Arholi wedi cymeradwyo cais o amgylchiadau esgusodol | Methu | Methu | Methu | Methu | |
| z | Gradd ar sail teilyngdod wedi'i chanslo oherwydd tramgwydd academaidd | Methu | Methu | Methu | Methu |
20 credyd Prifysgol = 10 credyd ECTS
12 credyd Prifysgol = 6 credyd ETCS
15 credyd Prifysgol = 7.5 credyd ECTS
| Gradd ECTS | Marc Canran Prifysgol |
| A | A14 – A16 |
| B | B11 – B13 |
| C | C9 – C10 |
| D | C8 – C9 |
| E | D5 – D7 |
Nid oes system gredyd gyson yn yr Unol Daleithiau; dylid gwirio cywerthedd credydau yn ôl sefydliad ar sail unigol.
Mae rhagor o wybodaeth am ECTS ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd.
Mae'r codau a ddefnyddir i ddangos lefelau'r modiwlau mewn rhaglenni BTEC/Pearson fel a ganlyn:
| N/H | Modiwl ar lefel genedlaethol yng nghyd-destun Rhaglenni Cenedlaethol Uwch |
| H | Modiwl wedi'i gynllunio ar gyfer rhaglenni Diploma/Tystysgrif Genedlaethol Uwch |
| CE | Modiwl wedi'i gynllunio ar gyfer Addysg Barhaus |
| PD | Modiwlau wedi'u cynllunio ar gyfer Datblygiad Proffesiynol |
Mae gwerthoedd modiwlau yn dynodi cyfran y gefnogaeth ddysgu ffurfiol sy'n ofynnol ar gyfer pob modiwl. Mae'n rhaid i gyfanswm gwerth modiwlau sydd wedi'u cwblhau i lefel foddhaol fodloni gofyniad lleiafswm gwerth modiwl ar gyfer y rhaglen.
Ar ôl cwblhau modiwl yn llwyddiannus, dyfernir gradd. Mae'r tabl isod yn rhoi arweiniad i raddau Pasio, Teilyngdod, a Rhagoriaeth, ond pennwyd y bandiau yn ôl y cwrs a astudiwyd.
| Gradd | Marc Pwynt Gradd (Mae'r graddau hyn yn dynodi lefel o gyflawniad yn y wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sylfaenol) |
| Rhagoriaeth | A14 – A16 |
| Teilyngdod | B11 – B13 |
| Pasio | D5 – C10 |
| Wedi'u heithrio | Trwy brofiad neu gymhwyster sy'n dderbyniol i BTEC/Pearson |
| Credydwyd | Llwyddiant ar fodiwl BTEC/Pearson cyfwerth |
Fel arfer, ni ddyfernir graddau Teilyngdod a Rhagoriaeth mewn perthynas â modiwlau CE neu PD
Mae rhagor o wybodaeth am fframwaith rhaglenni BTEC/Pearson a chynnwys rhaglenni galwedigaethau penodol ar gael o https://qualifications.pearson.com/en/home.html
Mae lleoliad astudio yn dynodi a gyflawnwyd cwrs yn un o gampysau'r Brifysgol neu gydag un o'n partneriaid cydweithredol.
Cymraeg a/neu Saesneg yw iaith y modiwlau, oni nodir yn wahanol.