Asesiadau, arholiadau a byrddau
Arholiadau
Y tîm Arholiadau, Ardystio a Graddio sy'n gyfrifol am reoli arholiadau'r Brifysgol a drefnir yn ganolog. Maen nhw'n gyfrifol am:
- Amserlennu a chyhoeddi'r holl arholiadau a drefnir yn ganolog
- Hyfforddi a phenodi Goruchwylwyr Arholiadau
- Cynnal yr holl arholiadau a drefnir yn ganolog
- Cydlynu darpariaeth papurau arholiadau
- Hwyluso cefnogaeth arholiadau i ymgeiswyr y mae angen trefniadau amgen arnynt
Rydym hefyd yn gweithredu fel canolfan arholiadau ar gyfer ymgeiswyr prifysgolion eraill sydd am sefyll arholiadau ym Mhrifysgol De Cymru
Gwybodaeth am Arholiadau i fyfyrwyr
Ewch i'n tudalennau gwe i fyfyrwyr i gael yr holl wybodaeth am arholiadau, gan gynnwys dyddiadau allweddol ar gyfer arholiadau a chanllawiau a rheoliadau arholiadau.
Manylion cyswllt
Os oes gennych ymholiad am arholiadau, cysylltwch â'r tîm Arholiadau, Ardystio a Graddio yn y swyddfa arholiadau drwy [email protected]
Byrddau
Gweler y ddolen ganlynol ar gyfer dyddiadau Bwrdd 2022/2023, gwiriwch yn rheolaidd mewn achos o unrhyw newidiadau i'r rhestrau:
Os na allwch ddod i'r cyfarfod fel y trefnwyd ac os oes gennych fodiwlau / myfyrwyr yn cael eu cyflwyno, trefnwch gynrychiolydd a hysbysu eich cyswllt Gweinyddu Myfyrwyr pwy fydd hynny cyn y cyfarfod.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno marciau yw saith diwrnod cyn y cyfarfod. Os byddwch yn cael unrhyw anhawster i gwrdd â'r dyddiad cau hwn, rhowch wybod i'ch cyswllt Gweinyddu Myfyrwyr arferol.