Ail-lunio'r diwydiannau creadigol yng Nghymru
Mae PDC wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu capasiti Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (YD&A) ar draws diwydiannau creadigol Cymru a’r DU drwy dair menter flaenllaw: Cynulleidfa'r Dyfodol, Clwstwr, a Media Cymru.
Drwy gyfuno arbenigedd academaidd mewn arloesedd sgrin, adrodd straeon digidol, ymchwil cynulleidfaoedd, a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, gan gydweithredu â’r diwydiant, mae ymchwil yn PDC yn helpu i ail-lunio a diogelu sector creadigol Cymru i'r dyfodol.
Ar gyfer Cynulleidfa’r Dyfodol cydweithiodd y tîm yn PDC â Tiny Rebel Games, Sugar Creative, Potato, ac Aardman i ddatblygu Wallace and Gromit: The Big Fix Up, profiad realiti estynedig aml-ddefnyddiwr. Arweiniodd ymchwilwyr yn PDC werthusiad o’r cynnyrch, profion defnyddwyr ac interniaethau myfyrwyr, yn ogystal â chyflwyno dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr, gan helpu i lunio arferion sy'n addas at y dyfodol ar gyfer adrodd straeon ymdrochol. Dangosodd y prosiect sut y gall mewnwelediad academaidd wella cynhyrchion creadigol masnachol a gosod safonau newydd ar gyfer ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Roedd Clwstwr (2018–2023), a ariannwyd drwy Raglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol AHRC ac a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, yn anelu at ymgorffori YD&A mewn gwaith cynhyrchu’r cyfryngau yn Ne Cymru. Cyn Clwstwr, nid oedd gan lawer o gwmnïau ddulliau strwythuredig o fynd i’r afael ag Y&D. Roedd tîm cyd-ymchwilwyr PDC, a dynnodd ar arbenigedd mewn polisi'r cyfryngau, cynhyrchu sgrin, technoleg greadigol, dylunio gemau a realiti rhithwir, yn allweddol wrth gefnogi 36 o gwmnïau ar draws 49 o brosiectau. Roedd y rhain yn cynnwys Gorilla TV, Cloth Cat, Sugar Creative, a Wales Interactive.
Buddsoddodd Clwstwr mewn 118 o brosiectau arloesi, gan arwain at dros £20 miliwn mewn trosiant ychwanegol a mwy na 400 o swyddi newydd. Rhwng 2019 a 2022, roedd yn cyfrif am £1 o bob £13 o dwf trosiant blynyddol yn niwydiannau creadigol Cymru. Ers hynny, mae cwmnïau a gefnogwyd gan Clwstwr wedi codi dros £5 miliwn ar gyfer datblygu ac maen nhw bellach yn fwy tebygol o ymgymryd â gweithgareddau Y&D gan ddefnyddio prosesau trylwyr.
Mae PDC hefyd wedi arwain y gwaith o gyflwyno adroddiadau ymchwil allweddol gan gynnwys Gwaith Sgrin 2020, Arolwg Sgrin Cymru 2021, ac Arolwg Gemau Cymru 2021. Gwnaeth yr adroddiadau hyn lenwi bylchau data critigol, llywio polisi, a dylanwadu'n uniongyrchol ar Gronfa Sgiliau Creadigol £3 miliwn Llywodraeth Cymru yn 2023/24 a 2024/25, sy'n cefnogi tua 30 o brosiectau ar draws y sector.
Mae Media Cymru yn rhaglen gwerth £50m a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac mae'n adeiladu ar lwyddiant Clwstwr. Yn seiliedig ar y wybodaeth a ddeilliodd o’r Arolwg Gweithlu Diwydiannau Sgrîn Cymru-gyfan blynyddol cyntaf (a lansiwyd gan PDC yn 2022), PDC sy'n arwain y pecyn gwaith Sgiliau a Hyfforddiant, gan gyflawni rhaglen strategol i ddiogelu gweithlu sgrin Cymru at y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys 'Cymrodoriaeth Cynhyrchu Rhithwir Cymru', yn ogystal â chyrsiau mewn cynaliadwyedd, rheoli data, a'r Uwchgynhadledd Dyfodol Hygyrch gyntaf.
Erbyn mis Mehefin 2026, roedd mwy na 300 o weithwyr proffesiynol wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Media Cymru, gyda chwe Chydlynydd Cynaliadwyedd yn cael eu lleoli gyda chwmnïau cynhyrchu i ymgorffori arferion gwyrdd.
Mae ymchwil PDC yn parhau i lywio modelau hyfforddi cynhwysol, ymatebol sy'n diwallu anghenion y diwydiant, sy'n esblygu'n gyflym. Mae'r gwaith hwn hefyd yn arwyddocaol am ei effaith yn y byd go iawn: gan greu swyddi, annog cynaliadwyedd, gwella cynhwysiant, a chryfhau'r economi.