Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi
Etifeddiaeth Drawsddiwylliannol wedi'i Datgelu
Ymchwil yn PDC Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-research-welsh-and-khasi-cultural-dialogues.jpg)
Ychydig iawn sy’n hysbys am hanes y cyfnewid diwylliannol rhwng y Cymry a phobl y Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India. Mae'r berthynas draws-ddiwylliannol hon wedi’i gwreiddio yn y cyswllt cenhadol a sefydlwyd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan genhadaeth y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mryniau Khasi a Jaiñtia, a’r prosesau diwylliannol sy'n ganlyniad i’r rhyngweithio hwn.
Hyd nes i’r mudiad cenhadol ddod i ben ym 1969, bu’i gynrychiolwyr yn creu cynnyrch diwylliannol helaeth yn seiliedig ar gyfnewid â’r gymuned leol, gan adael ar eu hôl gorff cyfoethog a chymhleth o lenyddiaeth a deunydd i’w berfformio. Ymhlith y deunyddiau hynny mae llythyrau, emynau a chaneuon gwerin, ysgrifennu crefyddol, dyddiaduron, cylchgronau, ysgrifennu taith, ffilmiau, ffotograffiaeth ac ysgrifennu creadigol, a’r cyfan wedi’u gwasgaru rhwng archifau gogledd ddwyrain India a Chymru.
Mewn cyfnod o ymraniad cymdeithasol a diwylliannol ledled y byd, mae’n hollbwysig meithrin ymwybyddiaeth o sut y mae ein hunaniaethau diwylliannol wedi cael eu ffurfio drwy gysylltiadau trawsddiwylliannol a sut y mae ein hanes wedi cael ei ddiffinio gan wahanol gyd-destunau trefedigaethol/ôl-drefedigaethol.
Arweiniodd ymchwil gan yr Athro Lisa Lewis yn y Ganolfan Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach (CMCSN) at y prosiect Deialogau Diwylliannol Cymreig a Chasi. Rhannwyd hyn drwy 28 o berfformiadau cyhoeddus a phum arddangosfa gan ymarferwyr Indiaidd a Chymreig (yn India a Chymru) rhwng 2017-2020 ac mae wedi codi ymwybyddiaeth o’r hanes hwn ymhlith cymunedau yn y ddwy wlad, gan alluogi cyfranogwyr o ddiwylliannau lleiafrifol i drafod eu hunaniaeth mewn perthynas â hanes trefedigaethol/ôl-drefedigaethol.
Mae’r gwaith ymchwil wedi effeithio ar arferion gwaith yr artistiaid sy’n cymryd rhan; ac wedi arwain at well dealltwriaeth o sut y gall ymarfer artistig ddatgelu hanesion cymhleth a chudd.