Mae gwaith ymchwil gan PDC yn helpu i wella canlyniadau yn ymchwiliadau’r heddlu i laddiadau.
Mae Ymchwil yn Gwella Ymchwiliadau i Laddiadau.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-case-study-social-policy-homicide.jpg)
Mae ymchwilio i laddiadau a’u hatal yn arbennig o heriol oherwydd y twf ym maint a chymhlethdod data digidol, cydweithio gwan rhwng asiantaethau, a thwf cyflym mewn rhai mathau o laddiadau fel lladdiadau sy’n gysylltiedig â chyllyll a gangiau. Yn ogystal, mae effaith gwyddorau fforensig ar ganlyniadau cyfiawnder troseddol yn anhysbys i raddau helaeth.
Mae ymchwil a arweiniwyd gan yr Athro Fiona Brookman wedi rhoi atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r heriau hyn ac wedi llywio polisïau ac arferion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Ers 2013, yn y Deyrnas Unedig mae’r rhain yn cynnwys: gwelliannau yn ansawdd ac amseroldeb data ar y Mynegai Lladdiadau; cyfrannu at drafodaethau’r llywodraeth am droseddau cyllyll a lleihau nifer y lladdiadau; dylanwadu ar Strategaeth Gwyddorau Fforensig y Swyddfa Gartref; diwygiadau i strategaethau a hyfforddiant teledu cylch cyfyng cenedlaethol; cyd-ddatblygu dulliau o fesur effaith gwyddorau fforensig gyda’r Swyddfa Gartref; a dylanwadu’n uniongyrchol ar ymarfer ymchwiliol (e.e. drwy gyfraniadau at hyfforddiant a chanllawiau ymarfer allweddol megis y Murder Investigation Manual).
Rhwng 2015 a 2019, arweiniodd yr Athro Brookman yr astudiaeth ethnograffig gyntaf ym Mhrydain o rôl y gwyddorau a thechnolegau fforensig (FSTs) wrth ymchwilio i laddiadau – y prosiect Homicide Investigation and Forensic Science (HIFS) a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Roedd y gwaith yn golygu casglu data gan bedwar gwasanaeth heddlu, edrych ar 44 o ymchwiliadau, cynnal 144 o gyfweliadau ag ymarferwyr, dadansoddi nifer o ffeiliau achos, a 700 awr o arsylwi ar 11 ymchwiliad lladdiad ‘byw’, o safle’r drosedd i’r llys.
Mewn rhai lluoedd yn y Deyrnas Unedig, mae canfyddiadau ymchwil o brosiect HIFS wedi arwain at ddeialog mwy effeithiol ac ymgysylltu cynnar rhwng yr heddlu, gwyddonwyr fforensig, arbenigwyr digidol, a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Fe wnaeth y canfyddiadau hefyd lywio’r Strategaeth Gwyddorau Fforensig Digidol genedlaethol, llywio diwygiadau i strategaethau a hyfforddiant teledu cylch cyfyng cenedlaethol, ac arwain at ailgyfeirio arian at waith fforensig digidol, gan gynyddu capasiti a gallu.
Effaith Ymchwil PDC
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Dywedodd Alex Heare, Rheolwr Technegol Gwaith Fforensig Digidol gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr: “Mae’r gwaith hwn wedi rhoi tystiolaeth wrthrychol o effaith teledu cylch cyfyng mewn ymchwiliadau, sy’n hanesyddol wedi cael ei danbrisio ac, yn ei dro, heb ddigon o adnoddau a heb ddigon o gyllid yn genedlaethol. Cyflwynais y papur ymchwil i’n Huwch Dîm Arwain ac o ganlyniad, sicrhawyd bod arian ychwanegol ar gael i’n Huned Gwaith Fforensig Digidol… Bydd gennyn ni offer ychwanegol i fod yn fwy effeithiol ond hefyd byddwn ni’n rhoi hyfforddiant i’r holl staff ynghylch y bygythiadau sy’n dod i’r amlwg mewn teledu cylch cyfyng megis amgryptio, hacio a’r cwmwl. Nid yw effeithiolrwydd tystiolaeth Gwaith Fforensig Digidol, yn enwedig teledu cylch cyfyng, yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn ac mae’r gwaith sydd wedi’i wneud i ddangos y ffaith hon yn llythrennol fel aur.”
Yn 2020, trafodwyd casgliadau’r Athro Brookman am Fynegai Lladdiadau’r Swyddfa Gartref yn y Tasglu ar Gyfiawnder Troseddol dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog. Arweiniodd hyn at gydweithio newydd rhwng ystadegwyr y Swyddfa Gartref a’r heddlu i wella ansawdd data a phrydlondeb, a hefyd i gynyddu argaeledd a hygyrchedd data ar gyfer academyddion. Er enghraifft, mae rhyngwyneb cipio data newydd yn cael ei ddatblygu er mwyn gallu pennu patrymau a thueddiadau yn fwy cywir, a llywio camau atal pwrpasol.
Mae ymchwil yr Athro Brookman hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar blismona yng Nghanada, yr Eidal, yr Iseldiroedd a Trinidad a Tobago.
Dywedodd Jacquie Hayes, Pennaeth y Tîm Dadansoddi ac Ymchwil, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS): “Roedd yr adolygiad o’r dystiolaeth, ynghyd â’r argymhellion a wnaed, yn hynod ddefnyddiol i HMICFRS. Gwellodd y canfyddiadau ein dealltwriaeth o sut y gellir mynd i’r afael yn fwy effeithiol â lladdiadau sy’n gysylltiedig â gangiau a llygredd yn yr heddlu yn Trinidad a Tobago. Fe wnaethon nhw hefyd roi sail uniongyrchol i’n hadolygiad o atal ac ymchwilio i laddiadau yn Trinidad a Tobago.”