Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
C20: GWAITH CYMDEITHASOL A PHOLISI CYMDEITHASOL
Creu atebion i gymdeithas ac i’r economi.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/GettyImages-1466734748-1.jpg)
Mae ein hymchwil mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol yn rhychwantu nifer o ddisgyblaethau, a’u prif nod yw cymhwyso ymchwil i faterion y ‘byd go iawn’ er budd llywodraethau, llunwyr polisi, awdurdodau gwasanaethau cyhoeddus, defnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion eraill.
Y pynciau sy’n gryfderau nodedig yw:
- trais a lladdiadau; ymchwiliadau i droseddau mawr/adolygiadau o hen achosion; cam-drin sylweddau; carchardai ac adsefydlu; a’r gwasanaeth prawf gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid.
- dadansoddi polisïau ac ymarfer; mudo, gwleidyddiaeth amgylcheddol, polisi cymdeithasol a chyhoeddus byd-eang, a datblygu rhyngwladol; polisïau sy’n effeithio ar bobl ifanc yng ngwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
- materion diogelwch fel terfysgaeth, trais gwleidyddol, seiberdroseddu a rhyfeloedd a throseddu cyfundrefnol trawswladol.
Ymchwil Terfysgaeth PDC
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
UCHAFBWYNTIAU’R FFRAMWAITH
- Mae 71% o’n gwaith ymchwil ym maes gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*) (4* / 3*)
- Mae dros 80% o effaith ein hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*)
- Mae 75% o’n hallbynnau gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*)
- Yn gyntaf yng Nghymru am effaith o blith tair prifysgol – ar sail 4* / 3*
CANLYNIADAU’R UNEDAU ASESU
% 4* | % 3* | % < 2* | |
---|---|---|---|
Cyffredinol |
21 | 50 | 29 |
Allbynnau |
21.6 | 52.9 | 25.5 |
Effaith |
33.3 | 50.0 | 16.7 |
Amgylchedd |
0.0 | 37.5 | 62.5 |
I weld y canlyniadau llawn, ewch i www.ref.ac.uk.