Gwell darpariaeth iaith ar gyfer mudwyr dan orfod yng nghymru
Mae ymchwil yn gwella cymorth iaith, integreiddio, a pholisi i ymfudwyr yng Nghymru.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-helping-refugees-in-wales.png)
Mae ymchwil gan Yr Athro Mike Chick wedi helpu i wella’r addysg Saesneg sydd ar gael i fudwyr dan orfod yn y de ac wedi llywio polisi’r llywodraeth ar ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
Ers 2014, mae toriadau i gyllidebau addysg iaith oedolion ynghyd â chynnydd yn nifer y bobl sy’n ceisio lloches wedi arwain at angen dybryd am fwy o ddarpariaeth ESOL. Mae sgiliau iaith yn hanfodol i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Mae siarad Saesneg yn allweddol i allu cael cyfleoedd gwaith a chyfleoedd addysgol, ac mae’n helpu hefyd gydag integreiddio cymdeithasol a diwylliannol. Eto i gyd, mae mudwyr dan orfod yn aml yn wynebu oedi hir cyn gallu mynd i ddosbarthiadau Saesneg.
Mae ymchwil Yr Athro Mike Chick i ESOL wedi arwain at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth i lawer o bobl sy’n ymsefydlu o’r newydd yn y de.
Gan weithio gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghaerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fe ddatblygwyd modelau ar gyfer darpariaeth ESOL i fudwyr dan orfod drwy weithio ar y cyd.
Mae hyn wedi gwella gallu pobl i gael addysg iaith, wedi gwella canlyniadau integreiddio, ac wedi cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru.