GWELLA POLISÏAU AC ARFERION CAFFAEL
Caffael Gwell yn Hybu'r Economi.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/GettyImages-1159046387.original.jpg)
Mae gwariant caffael y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn destun pryder parhaol, ac mae hyn wedi gwaethygu yn yr economi sydd ohoni ar ôl y cyfnod o gyni a gafwyd.
Gan Gymru y mae’r economi sy’n perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae ymchwil gan academyddion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi arwain at amrywiaeth o ymyriadau i wella effeithiolrwydd caffael a thrwy hynny gyfrannu’n uniongyrchol at les economaidd y rhanbarth.
Arweiniodd y gwaith at newidiadau polisi ac ymarfer o fewn Llywodraeth Cymru sydd wedi arwain at gynnydd o 100% yn nifer y busnesau bach a chanolig sy’n gwneud cais am gontractau gan y sector cyhoeddus, ac at welliant o 400% yn eu llwyddiant wrth ennill contractau.
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth a hyfforddiant achrededig CIPS a ddarperir gan PDC wedi helpu i drawsnewid arferion caffael yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, gan gyfrannu’n sylweddol at fwy o gynaliadwyedd economaidd i brynwyr a chyflenwyr yn y rhanbarth.
Effaith Ymchwil PDC
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-supporting-welsh-businesses-through-procurement-policy.png)