Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
B11: CYFRIFIADUREG A GWYBODEG
Creu atebion i gymdeithas ac i’r economi.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau'r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/GettyImages-667155848.png)
Mae ein gwaith ymchwil wedi’i rannu rhwng pum maes pwnc eang:
- Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
- Hypergyfryngau
- Seiberddiogelwch a Gwaith Fforensig
- Deallusrwydd Artiffisial
- Cyfrifiadura Biofeddygol
Mae ymchwil i’r amrywiadau daearyddol mewn gwasanaethau cyhoeddus a phreifat wedi bod o fudd i sefydliadau sy’n cydweithio â ni, fel Adran yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru a Gofal Canser Tenovus. Mae ein gwaith ar Systemau Trefniadaeth Gwybodaeth wedi cynnwys nifer o sefydliadau sy’n cydweithio â ni, fel Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Historic England, Historic Environment Scotland, a’r Gwasanaeth Data Archaeoleg.
UCHAFBWYNTIAU
- Mae 51% o’r ymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*) – bron iddwbl y canlyniad o 26% a gafwyd yn 2014
- Mae 100% o effaith ein hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* /3*)
- Cydradd gyntaf yn y Deyrnas Unedig am effaith o blith 90 o brifysgolion – ar sail 4* / 3*
- Cydradd gyntaf yng Nghymru am effaith o blith pum prifysgol – ar sail 4* / 3*
CANLYNIADAU’R UNEDAU ASESU
% 4* |
% 3* |
% ≤ 2* |
|
Cyffedinol |
8 | 43 | 49 |
Allbynnau |
2.9 | 41.2 | 55.9 |
Effaith |
25.0 | 75.0 | 0.0 |
Amglychedd |
0.0 | 0.0 | 100.0 |
I weld y canlyniadau llawn, ewch i www.ref.ac.uk.