B7: SYSTEMAU’R DDAEAR A GWYDDORAU AMGYLCHEDDOL
Creu atebion i gymdeithas ac i’r economi.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau'r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/Biological-Sciences-Wildlife-Ecology-Research-_-Researchers_49130.jpg)
Mae gwaith ymchwil ym maes Systemau’r Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol wedi’i rannu’n dair thema benodol: Cymwysiadau Genetig a Moleciwlaidd; Ecoleg Bywyd Gwyllt; a Geowyddoniaeth.
I’n hymchwilwyr genetig a molecwlaidd, mae nifer yr achosion o wrthfiotigau mewn systemau naturiol ac anthropig yn ffocws o bwys, a cheir arbenigedd mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd, biotechnoleg, genomeg a bioleg gyfrifiadurol syn gysylltiedig â diogeledd bwyd byd-eang.
Mae ein gwaith ymchwil ym maes Ecoleg Bywyd Gwyllt yn ymchwilio i heriau ecosystemau trofannol; ecoleg tirwedd yr ucheldir; a gwarchod bioamrywiaeth. Mae ein gwaith ymchwil ym maes Geowyddoniaeth yn arbenigo mewn defnyddio dadansoddiadau o fwynau awtomataidd uwch; geowyddoniaeth fforensig; geocemeg; a mwynoleg gymhwysol.
Ymchwil Biotechnoleg PDC
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-biotechnology-and-food-security-research-thumbnail.png)
UCHAFBWYNTIAU’R FFRAMWAITH
- Cydnabuwyd bod mwy na 50% o’r gwaith ymchwil ym maes Systemau’r Ddaear a
Gwyddorau Amgylcheddol gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*) - Cydradd gyntaf yn y Deyrnas Unedig am effaith o blith 40 o brifysgolion – ar sail 4* / 3*
- Mae 100% o effaith ein gwaith ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol (3*)
CANLYNIADAU’R UNEDAU ASESU
% 4* |
% 3* |
% ≤ 2* |
|
Cyffredinol |
4 | 49 | 47 |
Allbynnau |
5.9 | 41.2 | 52.9 |
Effaith |
0.0 | 100.0 | 0.0 |
Yr Amgylchedd |
0.0 | 0.0 | 100.0 |
I weld y canlyniadau llawn, ewch i www.ref.ac.uk