C24: Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth
Creu atebion i gymdeithas ac i’r economi
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/sport/Sport-and-Exercise-Science-Research_46763.jpg)
Mae ein gwaith ymchwil ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff yn canolbwyntio ar ddwy thema integredig, amlddisgyblaethol – Perfformiad Chwaraeon ac Iechyd Fasgwlaidd.
Mae’r gwaith ymchwil ym maes Perfformiad Chwaraeon yn defnyddio dull ymarferol o wella perfformiad athletwyr elît a hyrwyddo gweithgarwch corfforol ymhlith perfformwyr sydd yn eu harddegau. Mae’r ymchwil ym maes Iechyd Fasgwlaidd yn canolbwyntio ar fanteision fasgwlaidd ymarfer corff gydol oes.
I gyd-fynd â’r ddwy brif thema ceir disgyblaethau ymchwil arbenigol sy’n canolbwyntio ar y canlynol: ymchwil ym maes Niwrowyddoniaeth Glinigol / Ffisioleg Fasgwlaidd; ymchwil ym maes Seicoleg Chwaraeon; ymchwil ym maes Anafiadau, Monitro ac Adsefydlu; ac ymchwil ym maes Hyfforddi Chwaraeon.
Uchafbwyntiau’r Fframwaith
- Mae 96% o’n hymchwil ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*) – cynnydd o 45% ers 2014
- Mae 100% o effaith ein hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*)
- Mae 100% o’n hallbynnau gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*)
- Mae PDC yn gydradd gyntaf yn y Deyrnas Unedig am effaith ac allbynnau o blith 61 o brifysgolion – ar sail 4* / 3*
- Cydradd nawfed yn y Deyrnas Unedig o blith 61 o brifysgolion – ar sail ymchwil 4* / 3*
Canlyniadau’r Unedau Asesu
% 4* |
% 3* |
% < 2* |
|
---|---|---|---|
Cyffredinol |
29 | 67 | 4 |
Allbynnau |
37.5 | 62.5 | 0.0 |
Effaith |
25.0 | 75.0 | 0.0 |
Amgylchedd |
0.0 | 75.0 | 25.0 |
I weld y canlyniadau llawn, ewch i www.ref.ac.uk.